thynasol i'w destyn, ac wrth fod ei amcan yn syml ni wyrai oddiwrth hynny; a diau y disgynnai weithiau ar wythien ddedwydd. Ond ni feddai y gafael meddwl a gydiai ym mhrif egwyddor y testyn, gan wneud popeth yn y bregeth yn gwbl ddarostyngedig i'r eglurhad ar ystyr yr egwyddor honno. Eithr yr oedd y presenoldeb corfforol braidd yn urddasol. Yr oedd yn wr oddeutu chwe troedfedd o uchder, ond yr ysgwyddau yn llithro i lawr ac yn gulion; y pen heb hyd na lled ond yn uchel; y talcen yn uchel iawn ond yn gul; y trwyn yn lled fawr ac yn codi ar y canol; y wyneb gyda gwrid arno. Fe safai yn syth, ac fe gerddai ar yr heol ar bob pryd yn araf, araf, ond gydag urddas tawel, diymhongar, difrif. Wrth i'r Dr. Edwards ddod i'w wyddfod unwaith, fe gyfarchai y Dr. fel—y Dr! "Yr ydych chwi yn debycach i Ddr. na mi," ebe'r Dr. yn ol, ac, yn wir, nid ymddanghosai hynny yn ddywediad diystyr i'r edrychydd, fel y safai'r ddau wyneb yn wyneb â'i gilydd. Eithr ni feddai ef ar ddirgelwch presenoldeb y Dr. chwaith. Ac fel ei ymddanghosiad, a'i arddull o draddodi a meddwl, felly yr oedd cymeriad y dyn: syml, unplyg, culfarn braidd, gwastad ei rodiad, egwyddorol, pwyllog; nid heb urddas tawel yn y pulpud, ar yr heol, yn ei dŷ; heb droadau cylchynol, heb gonglau igam-ogam, heb gyrlio'n gywreinddoeth, elai ymlaen yn unionsyth, yn arafdrwm, yn gymesur ei gamau. Nis gallesid dweyd, "Fel gloew seren yn y ffurfafen," fel y mae yng nghyfieithiad y Dr. Lewis Edwards; ond gallesid dweyd, fel y mae yng ngwreiddiol Goethe, "Fel y seren yn y ffurfafen," ac yna gallesid myned ymlaen,— {{center block|
Heb brysuro, ac heb orffwyso,
Nes cyflawn orffen y gwaith rowd iddo.
|} Yr oedd yn ddealledig rhwng Evan Williams ac yntau, fod y naill i gymeryd dosbarth y dynion ieuainc, a'r llall y cynhebryngau, ac nis gallasai fod rhaniad mwy cymesur. Yr oedd yr arafwch difrif yn gweddu i dy galar. Ac heb dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth ei hun, heblaw y tâl arferol am ei Sul unwaith y flwyddyn, fe ofalai ef am roi ei swllt yn gyson lle byddai offrwm yn y tŷ. Fe ymwelodd lawer, hefyd, â chleifion. Yr oedd yn wr caredig, serchog ar ddull tawel, lletygar, a chafwyd enghreifftiau o haelioni arbennig ynddo rai gweithiau. Fe ddywedir iddo gyfranogi yn helaeth o dân diwygiad 1859, a than