er heb ei gydnabod fel y cyfryw; ac ystyrrir ddarfod iddo wneud y gwaith hwnnw mewn modd cymeradwy a bendithiol. Symudodd oddiyma i Millom, lle bu farw, 1892.
Tachwedd 29 hyd Ragfyr 2, 1883, bu'r Misses Rosina Davies a Phillips yma yn cynnal cyfarfodydd efengylaidd, y tro cyntaf i ferched fod yn cyfarch yma yn y ffordd o bregethu. Cywreinrwydd mawr, ac effeithiau dwys. Tybir na bu'r capel erioed mor llawn. Yn 1876 dechreuwyd argraffu'r adroddiad eglwysig. Bu bwlch yn eu cyhoeddi yn ystod 1880-2. Awst 21, 1883, dewiswyd yn flaenoriaid, R. Norman Davies a Robert Humphreys. Awst 20, 1889, dewiswyd William Davies. Mai 3, 1892, John Griffiths, David Pierce a Thomas Thomas. Symudodd Thomas Thomas ym mhen amser i Castle Square. Medi 27, 1899, dewiswyd Thomas Hughes a S. Maurice Jones. Bu farw (Dr.) Morris Davies Rhagfyr 30, 1888, yn 70 oed, ac wedi dechre pregethu ers 50 mlynedd. Yr ydoedd yma ers 38 mlynedd. Ni bu yn pregethu ers amser maith cyn y diwedd. Fel y cynyddai galwadau ei alwedigaeth arno, fe ddodai'r pregethu o'r neilltu. Cyn rhoi pregethu yn gyfangwbl o'r neilltu, fe fu am flynyddoedd yn myned yn achlysurol at yr hwyr, neu bnawn a hwyr, i leoedd cyfagos i'r dref, pan fyddai y lleoedd hynny wedi eu siomi am bregethwr. Tebygir ei fod yn y blynyddoedd hynny yn fwy derbyniol fel darllenydd yr ysgrythyr nag fel pregethwr. Dyn dipyn bach is ei law na'r cyffredin o ran taldra corff, a gweddol lyfndew, gyda phrydwedd cymesur, a gwên. Fel y boneddig ieuanc yn y Bardd Cwsc, gallai y Dr. fod yn llaes ei foes, ac yn deg ei wên, nid "i bawb a'i cyrfyddei," fel y boneddig ieuanc, ond i bawb y teimlai efe hynny'n angenrheidiol a buddiol. Fel dynion eraill o daldra cymharol fychan, yr oedd y Dr. yn hoff o het silc dalach na'r cyffredin, a gwisgai honno am yn hir o amser, ac wrth ei fod yn wr o arferion glanwedd, fe allesid gweled yr het yn disgleinio yn yr heulwen oherwydd ei mynych olchi. Yr ydoedd yn siaradwr rhydd a rhwydd yn y Saesneg a'r Gymraeg, er mai anfynych y clywid ef oddigerth yn y capel. Gallai eneinio ei ymadroddion mewn olew pan fyddai galw, er na wnae efe mo hynny i ryngu bodd pob rhyw ddyn. Ar adegau go neilltuol, megys pan siaradai yn y seiat undebol, fe fyddai ei lais yn ymddyrchafu yn raddol i'r nenfwd, a byddai'n taflu math ar orchwyledd dros ei ymadroddion ei hun. Llefarai yn y dull