Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnnw unwaith wrth eilio diolchgarwch i Granogwen am ei darlith, gan gymeryd y cyfleustra i adrodd hanesyn oddiwrth ryw bwnc yn y ddarlith. Wrth gydnabod y diolchgarwch, fe soniai y ddarlithwraig, mewn cyfeiriad amlwg at eilydd y diolchgarwch, am " gymeryd deng munud o amser cyfarfod i adrodd stori fach." Ymdaenai gwawr goch ysgafn dros wyneb y Dr. Yr ydoedd wedi cymeryd nifer o shares yn y North and South Wales Bank ar y cychwyn. Lliosogodd y rheiny eu gwerth amryw weithiau drosodd, a dododd hynny i lawr sylfaen cyfoeth go fawr. Eithr nid ymhelaethai y Dr. mewn haelioni gyda chynnydd ei gyfoeth, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, oddigerth ar ryw dro neu ddau, megys pan y rhoes ddeugain gini ynglyn âg atgyweiriad y capel yn 1867. Y mae gan Mr. Evan Jones syniad uchel am ei ddoniau naturiol a'i grefyddolder, ac fel hyn. y dywed: "Unwaith erioed y clywais Dr. Davies yn pregethu, pan oeddwn yma yn 1856, ryw nos Saboth yn Siloh bach. Yr oedd ei lond o ddawn pregethu ped ymroddasai i hynny. Ond nid hawdd yw i'r mwyaf amryddawn wasanaethu dau arglwydd. Nis gellid cymodi y meddyg a'r pregethwr, a'r meddyg a orfu. Deuai yn gyson i'r cyfarfod eglwysig, a meddai brofiad uchel o wirioneddau'r Efengyl." Dyma sylw W. P. Williams: "Wedi myned yn llwyddiannus drwy'r arholiadau, ymsefydlodd yng Nghaernarvon. Yr oedd y pryd hynny yn ddyn cymharol ieuanc ac addawol, a disgwylid cryn lawer oddiwrtho. Pregeth- odd amryw weithiau gyda chryn lawer o gymeradwyaeth, a dilynai'r cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi yn gyson iawn; ond fel y cynyddai'r alwad arno fel meddyg, yr oedd yntau'n methu dilyn y cyfarfodydd, ac fe aeth y Dr., yr ydym yn ofni, i raddau gormodol dan ddylanwad ysbryd y byd." Yn y seiat olaf iddo, adroddodd y sylw am ddynion yn gallu byw ar log eu harian, heb i'r cyfanswm fyned yn ddim llai, ond ymherthynas âg amser, yr ydys yn treulio'r cyfanswm o hyd, a chyn hir byddis wedi treulio'r cwbl. Mewn cyfarfod misol ym. Moriah unwaith, wrth gyfeirio at y "bobl fawr" oedd wedi bod yno, fe ddaeth Mr. Evan Jones ar draws enw'r Dr., a chrynhodd ei gymeriad yn yr ymadrodd, "Yr oedd yn grefyddol tuhwnt, ac yn medru cadw ei arian cystal a dim biwrô."

Bu Robert Griffith farw Rhagfyr 18, 1889, yn 83 oed, ac yn flaenor ers 27 mlynedd. Yr ydoedd ef yn fab i'r hynod Sian Ellis Clynnog. Yn ddyn o ymddiried. Gallai ddweyd gair yn