ei bryd. Cadwai gyfrifon manwl fel trysorydd casgl y weinidogaeth. Gwnaeth lawer gyda phethau amgylchiadol yr achos. Tystiai y gwyddai i bwy yr oedd wedi ymddiried.
Bu Lewis Lewis farw, Gorffennaf 1, 1889, yn 69 oed, wedi ei ddewis yn flaenor yn 1860. Nodwedd y masnachwr oedd amlycaf ynddo ef. Yr oedd yn ddiwyd, gofalus, ymroddgar gyda'i orchwyl, ond, fe ddichon, heb estyn ei sylw a'i ofal i holl gysylltiadau ei fasnach. Bu am dymor go faith yn un o'r tri neu bedwar prif fasnachwyr yn y dref. Aeth ei sylw yn o lwyr ar y myned a'r dod yn ei fasnach brysur, a methu ganddo gael y seibiant gofynnol i hunan-ddiwylliant. Bu'n faer y dref dair gwaith, a gelwid arno i ddyledswyddau cyhoeddus, yr hyn nad oedd yn gynefin iddo, er bod yn flaenor. Gydag amser, fe ymgyfaddasai fwyfwy i'w orchwylion, a deuai'r iaith fân, doredig, yn llyfnach a llawnach. Yn goffadwriaeth am ei swydd fel maer, fe roes £500 tuag at Lyfrgell y dref. Fe deimlai wir ddyddordeb yn holl helynt y capel, ac yr oedd yn wr dymunol. ym mhob cylch, ac yn un ag y buasai'n anhawdd ewyllysio dim drwg iddo. Arno ef, yn bennaf, y bu'r gofal am y tlodion, a bu'n ddiwyd gyda hynny. Bu'n arolygwr effeithiol yn yr ysgol, a dygodd i mewn liaws o fân-gynlluniau. Efe a W. P. Williams ydoedd y ddau arolygwr mwyaf llwyddiannus a welodd Mr. Morris Roberts.
Bu Richard Griffith farw Medi 28, 1890, yn 77 oed, ac wedi bod yn flaenor er 1860. Yr ydoedd yntau ar un tymor yn un o brif fasnachwyr y dref. Gwr â golwg grâff ganddo, a rhywbeth yn null ei gerddediad yn arwyddo ystwythter corfforol, a chryn benderfyniad. Pan siaradai yn gyhoeddus, mater amgylchiadol fyddai ganddo, a dywedai ei feddwl yn rhwydd a threfnus, gan ddisgyn yn ddiymdroi ar y pethau perthynasol. Dyma sylw Mr. Morris Roberts arno: "Gwr masnach, wedi ei yrru i'r sêt fawr braidd yn erbyn ei ewyllys. Cof gennyf am seiat heb neb ond Richard Griffith yn y sêt fawr. Wedi i rywun ddechre, dywedodd yntau fod rhywbeth go anghyffredin wedi digwydd y tro hwnnw. Fel rheol,' meddai, bydd y sêt yma yn o lawn, a'r rheiny yn gyffredin yn o barod i siarad; ond heno ddim ond un, a hwnnw heb awydd i siarad. Y rhan amlaf, bydd yma fwy o siarad o'r sêt fawr nag o'r llawr; ond fieno fel arall y bydd hi. Mi rof, gan hynny, gyfle i chwi i siarad; ac os na siaradwch ohonoch eich hunain, mi fyddaf yn rhwym o alw arnoch.'