Ar hynny, dyma frawd na byddai'n arfer dweyd llawer yn codi, yna chwaer, a rhywun neu gilydd ymlaen i'r diwedd. Dywedodd yntau ei hun air yn fyrr, a galwodd ar rywun i derfynu. Wrth fyned allan, dywedai Mr. O'Brien Owen wrthyf, ' Dyma'r seiat ryfeddaf fu'm i ynddi hi erioed. 'Roedd ynof ryw awydd i ddweyd rhywbeth o hyd, ond yn methu hefyd.' Yr oedd yr hen chwiorydd, wrth fyned allan, yn canmol y seiat fel un anarferol o dda." Elai Richard Griffith yn ystod ei flynyddoedd olaf i gynorthwyo yn ysgol Glanymor.
Yn 1892, R. H. Richards yn dechre pregethu, wedi hynny yn athro yn y Bala. Medi 23, 1892, J. W. Jones yn dechre, wedi hynny yn fugail yn Nant Llithfaen. Symudodd Mr. Owen Jones (Glanbeuno) yma o'r Felinheli, ac erys yn aelod yma o hyd. Ionawr 2, 1894, Mr. T. Gwynedd Roberts yn symud yma o Rostryfan. Tachwedd 13, 1895, Mr. Roberts yn symud i Gonwy fel bugail. Yn 1896, daeth Mr. D. E. Davies yma o Bwllheli.
Mawrth 13, 1892, bu farw Robert Humphreys, yn 42 oed, yn flaenor ers naw mlynedd. Efe oedd ysgrifennydd yr eglwys, a bu'n ymroddedig iawn ynglyn â chodi'r ysgoldy a chael yr organ. Efe a ddygai allan yr adroddiad eglwysig o 1883 ymlaen. Dyma sylw Mr. Evan Jones arno: "Dyn ardderchog oedd Mr. Humphreys. Nid oedd dim amheuaeth am ei grefydd. Yr oedd ei swydd [swyddog y cyllid] yn ei ddyrchafu goruwch pob amheuaeth am ei allu a'i gywirdeb fel cyfrifydd. Nid oedd dim yn ei dymer yn afrywiog fel ag i gythruddo neb, tra'r oedd ei ymroddiad i'w waith, pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, yn wystl am ei gyflawniad. Y perygl oedd iddo fod yn rhy ymroddedig. Cae fythefnos neu ragor o seibiant bob blwyddyn. Ond yn lle eu cymeryd, fel y dylasai, i fwynhau ei hun, ac i ofalu am ei iechyd, treuliai hwynt yn rhy fynych i ddwyn allan yr adroddiad." Mae'n ddiau y teimlid y golled a'r chwithdod ar ei ol yn fawr.
Bu Cornelius Davies farw Ionawr 10, 1895, yn 84 oed. Daeth i Gaernarvon o Fostyn, lle'r ydoedd yn flaenor er 1851, ar yr 28 o Fedi, 1860, a bu'n flaenor yma am 26 blynedd. Yr oedd ei holl ddull yn arwyddo ei fod yn wr cynefin â manylder yn ei orchwylion. Cerddai â chamau byrion, lled brysur, bob pryd yn yr un dull; a gwisgai yr un modd yn ofalus bob amser, yn dwtnais, ond nid mewn dull i dynnu sylw ato'i hun; a llefarai