yn fyrr, ar y pwnc, gan dorri ei eiriau yn gwta. Trefnus, gofalus, deheuig yn ei orchwyl. Ni allai oddef diogi a syrthni: cymhellai'r ymarfer à rhyw orchwyl, rhag bod yn "blank in creation," chwedl yntau. Argraff dyn yn hytrach yn drwmfrydig oedd ar ei brydwedd tywyll: dim gwamalrwydd, dim gogan eiriau! Yr oedd yr un pryd yn hoff o blant, a bu'n arwain gryn lawer yn eu cyfarfodydd, a dywedir y byddai'n hael mewn gwobrau, er eu cymell i ymroi i wahanol wersi. Adeiladodd ei dy, nid yn unig o ran cynysgaeth fydol, ond mewn llafurwaith ysbrydol, a gwelir ei blant yn dilyn yn ol ei droed. Nid oes un gair a ddefnyddir yn amlach ynglyn âg ef na'r gair boneddwr: yr oedd yr argraff oddiwrth ei bersonoliaeth felly, yn enwedig wedi myned ohono ymlaen mewn dyddiau, pan y daeth penwyni yn goron anrhydedd iddo; ac yr oedd ei ymddygiadau yn cyfateb. Ceid ganddo ar dro ambell air yn dangos craffter sylw. Pan y gwneid coffa unwaith am frawd ymadawedig, ac y sylwid ei fod wedi marw yn orfoleddus, gan ei fod yn gorffwys ar y drydedd salm arhugain, fel chwanegodd yntau fod yn hawdd ganddo gredu i'r brawd hwnnw farw gan orffwys ar y drydedd salm arhugain, oblegid ei fod wedi arfer byw yn ol y bymthegfed salm. Mab iddo ef ydyw Mr. R. Norman Davies.
Ar ddiwedd yr oedfa gyntaf yng Nghyfarfod Misol Moriah, Ionawr 13, 1896, cyflwynwyd tysteb i'r Henadur W. P. Williams, ar derfyn gwasanaeth o dros hanner can mlynedd fel blaenor yr eglwys. Yr oedd y dysteb yn £77 ynghydag anerchiad. Rhagfyr 4, 1899, ar derfyn 50 mlynedd o wasanaeth fel blaenor, cyflwynwyd anerchiad a dysgl arian i Henry Jonathan.
Tebyg y gellir dweyd y bu gradd o arbenigrwydd ar yr eglwys hon ymhlith holl eglwysi y Cyfarfod Misol, ac hyd yn oed Ogledd Cymru i gyd. Yr oedd cynnydd cyflym yr achos yn ei flynyddoedd boreuol yn beth heb ond ychydig enghreifftiau i'w cystadlu âg ef. Pan agorwyd y capel presennol yn 1826, fe ddywedir nad oedd gan yr ymneilltuwyr Cymreig ddim cyffelyb o ran maint yn unlle. Yr oedd eofndra'r eglwys yn ymgymeryd â'r fath anturiaeth yn gwneud argraff aruthrol braidd ar y pryd. Yr oedd Henry Rees, ar yr ailagoriad yn 1867, yn adrodd am John Elias yn rhyw sasiwn, yn cyfeirio at yr agoriad cyntaf, a chan "estyn ei fraich hir allan," yn rhoi