Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynegiad mewn geiriau hirllaes, pwysleisiol, i'w synedigaeth ei hun uwchben maintioli'r adeilad. Ar y pryd, mae'n ddiau fod y peth yn fath o arwydd i elyn a chyfaill, canys cof gan liaws am erlid brwnt ar ymneilltuwyr, ac yr oedd nid ychydig o'r erlidwyr eu hunain yn fyw. Rhoid urddas ar yr eglwys gan bresenoldeb Evan Richardson, ac, ar ol hynny, Dafydd Jones, y blaenaf wedi bod yma am 37, a'r diweddaf am 27 mlynedd, y ddau yma dros awr anterth. Yma, hefyd, y cyrhaeddodd y gweinidog oedd yma yn niwedd cyfnod yr hanes presennol ei awr anterth yntau. O ran rhif, hefyd, yr eglwys hon oedd y fwyaf yng Ngogledd Cymru ar rai adegau o leiaf. Ni chyrhaeddodd mo'r blaenoriaid yma at ei gilydd enwogrwydd cyfartal i'r pregethwyr. Yr oedd Dafydd Jones y cwper, er hynny, am gyfnod maith, yn deilwng a chyflawn wr yn ei swydd; ac yna, ar ei ol ef, fe gynrychiolwyd y swydd yn fwyaf amlwg gan ddau wr yr ymestynnodd eu gyrfa faith ryw gymaint dros gyfnod yr hanes yma, sef W. P. Williams a Henry Jonathan.

Heblaw'r pregethwyr fu'n aros yma, y mae'n sicr fod gan y pregethwyr teithiol lawer i'w wneud â chodi ac adeiladu'r eglwys. Tra'r oedd hynny'n wir am yr eglwysi yn gyffredinol, gan yr ymwelai'r pregethwyr yn eu tro â phob lle, eto, oblegid maint yr eglwys hon, hi gawsai ymweliadau oddiwrth y rhai hynotaf o'r pregethwyr yn amlach na nemor eglwys arall. Ac yr oedd rhyw nifer o bregethwyr yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a hanner blaenaf y ganrif ddiweddaf, yn meddu'r fath swyn i'r werin, a'r fath awdurdod a nerth yn eu pregethu, fel yr oedd ymweliadau mynych oddiwrthynt yn elfen bwysig iawn. yn llwyddiant unrhyw eglwys. Fe freintiwyd yr eglwys hon yn arbennig yn y ffordd honno. Y flwyddyn y cychwynnwyd. eglwys yng Nghaernarvon y dechreuodd Robert Roberts Clynnog bregethu, a phru'n bynnag a fu efe yma'n amlach nag mewn lleoedd eraill ai peidio, eto yr oedd yn cael mantais yma, ym mhoblogaeth y dref, uwchlaw lleoedd eraill yn gyffredin. Yr oedd ei bregethu angerddol ef, ac ymateb angerddol y bobl, y peth mwyaf cyfaddas i gyffroi sylw y dref. Craffer i'r amcan hwn ar yr hyn a ddywed Bingley am yr hyn a welodd yng nghapel y Methodistiaid yng Nghaernarvon ar ei ymweliadau â'r dref yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a'r flwyddyn gyntaf o'r ganrif ddiweddaf, sef fod ymdrechfeydd a dychlamiadau y bobl. y fath, fel mai prin y gallai eu cyrff eu cynnal wrth adael y lle.