Cerdd sylwadau Hutton, teithydd arall, i'r un cyfeiriad, ymherthynas â'r un cyfnod. Yng nghyflwr meddyliol y nifer mawr y pryd hwnnw, yr oedd y cyfryw effeithiau y mwyaf cyfaddas i atynnu'r bobl. Pregethwyr o ddylanwad anrhaethol yn eu hamser goreu oedd John Jones Edeyrn a Michael Roberts, a gwelwyd yr ymwelent â'r dref yn lled fynych. Deuai John Elias, fel y gwelwyd, yn fynychach eto, ac yr oedd iddo ddylanwad cyffroadol mawr yn rhan gyntaf ei oes, ac awdurdod ar bob dosbarth yn y wlad yn y rhan olaf. Dywedir mai ym Moriah y traddododd ei bregeth olaf. Yr oedd Thomas Hobley yn gwrando arno yma yn 14 oed, sef blwyddyn olaf John Elias, a'i oedfa olaf, debygir. Arferai ef adrodd am dano yn cerdded yn arafaidd i fyny risiau'r pulpud, ac yna yn wynebu'r gynulleidfa lawn, ac yn edrych megys ym myw ei llygaid, i fyny ac i lawr, ar y naill ochr a'r llall, a chyda'r fath drem dreiddgar, awdurdodol, fel y teimlid fod y gynulleidfa i gyd yn ei law cyn dywedyd ohono un gair. Yr oedd yr argraff ar y bachgen y fath, fel y difrifolai wrth gyfeirio at y peth ymhen deugain mlynedd, a dywedai mai John Elias oedd "y pregethwr—y pregethwr—mwyaf a welodd Cymru." Ar ryw nos Fawrth yr oedd Robyn Ddu yn hogyn yn gwrando ar John Elias ym Moriah, ar, Gadawed y drygionus ei ffordd. Nos Iau wedi hynny, danfonwyd ef gan R. M. Preece, ei feistr, sef tad Syr William Preece, i hysbysu y Wesleyaid yng nghapel Llandwrog nad allai efe ddod yno i bregethu y noswaith honno. Cymhellwyd Robyn Ddu a'r rhai ddaeth gydag ef i gymeryd rhyw ran yn y cyfarfod. "Cyfodais innau, yn yr eisteddle dan yr areithfa, ac fel yr wyf byw, dyna bregeth Mr. John Elias yn dyfod allan yn ei grym; yr oeddwn yn chwysu wrth fy modd, a'r bobl yn gweiddi o lawenydd, wrth glywed yr hogyn yn ei bloeddio, 'Efe a arbed—efe a arbed yn helaeth—efe a amlha arbed—efe wedi arbed a arbed drachefn,' ac ymlaen. Dydd Sadwrn a ddaeth, ac ymwelodd rhai o'r bobl à Mr. Preece i ganmol y bregeth . . . ." (Teithiau Robyn Ddu, t. 17.) Diau fod dylanwad mynych ymweliadau y fath bregethwr yn fawr ar feddyliau y bobl, y bechgyn go ieuainc a phawb. Hanner can mlynedd yn ol, a llai na hynny, fe glywid ei enw yn cael ei seinio gan ei hen wrandawyr yng Nghaernarvon gyda thrydan yn nhôn y llais,—"Mi fyddai Elias . . . ." "John Jones Talsarn a fu'n dod i Foriah yn fynych ar Suliau a nos-
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/119
Gwedd