weithiau'r wythnos ar hyd y blynyddoedd, deirgwaith neu bedair ar y Suliau, a bu ar un adeg yn dod yn o fynych ar nosweithiau eraill. Byddai'r capel yn llawn gydag ef bob tro. Fel yr ae un teulu i mewn drwy ddrws y tŷ ar noson waith wedi bod yn gwrando arno, yr oedd cloch y dref yn taro un arddeg, wedi bod ohono yn pregethu, debygir, y tro hwnnw, am dair awr neu ragor. Elai ambell i fachgen â'i fara a chaws gydag ef i'w fwyta'n lladradaidd rywbryd yng nghanol y bregeth. Yr oedd George Williams, y blaenor o Siloh wedi hynny, yn gwrando arno ar noson waith un tro yn fachgen ieuanc, fel yr arferai ddweyd, ac yn dweyd wrtho'i hun ar y pryd, y byddai'n hollol foddlon yn y nefoedd ei hun ar y fath ddedwyddwch a hwnnw. Dyma atgof Mr. Evan Jones am dano: "Yma, nos Saboth, Mawrth 22, 1857, y gwrandewais y Parch. John Jones Talysarn yn pregethu ei bregeth olaf. . . . Testyn Mr. John Jones oedd I Ioan iii. 2: Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn; eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo; oblegid ni a gawn ei weled ef megys ag y mae. Nid wyf yn cofio dim o'r bregeth. Yr oedd yno gynulleidfa fawr, ac yntau yn cael un o'i odfeuon rhagorol, a phawb wrth eu bodd. Ar ol yr oedfa, gweinyddid yr ordinhad o Swper yr Arglwydd ganddo. Nid wyf yn cofio dim neilltuol am hynny chwaith, heblaw fy syndod at y dorf fawr o aelodau a lanwent lawr y capel yn llawn, ac yn neilltuol gwaith Mr. Jones yn rhoi allan i ganu y pennill canlynol:—
Mi gana'm waed yr Oen,
Er maint yw mhoen a'm mhla;
'Does genny'n ngwyneb calon ddig
Ond Iesu'r meddyg da;
Fy mlino ges gan hon,
A'i throion chwerwon chwith;
Fy unig sail i am y wlad
Yw'r cariad bery byth.
Yr wyf yn ei weled yn awr, gyda'i gorff hardd a thywysogaidd, yn estyn y gwpan o law i law, ac yn canu â'i holl galon, gan ddyblu a threblu y llinellau, Fy mlino ges gan hon, etc., nes yr oedd yr holl le yn llawn o ddagrau dwys a gorfoleddus, ac yntau ei hunan yn ymollwng i fwynhau." Fe fu'n foddion i eangu syniadau lliaws, ac i roddi i liaws y syniad mwyaf dyrchafedig oedd ganddynt am hyawdledd sanctaidd.