Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni wyddys pa bryd y cychwynnwyd gyda'r Ysgol Sul. Diau. iddi gychwyn yma yn 1794, neu'n union ar ol hynny, sef yn union ar ol ei chychwyn yn y Capel Uchaf. (Edrycher y Capel Uchaf a Llanllyfni). Y mae llyfr yr ysgol am 1813 ac ymlaen ar gael. Yn ol W. P. Williams, Richard Owen, tad Robert Baugh Owen, oedd yr ysgrifennydd, a thŷb ei fod yn y swydd ers blynyddoedd. Dywed fod Richard Owen yn wr o urddas a dylanwad yn y dref. Dodir enwau'r ysgolheigion i lawr, gyda'u rhif, y merched yn flaenaf, ac yna y meibion. Ar ol yr enw, rhoir yr oed, yna enw y tad neu'r fam, yna'r preswylfod, yna'r graddau. Cyrraedd y graddau o un i chwech. Awd ymlaen gyda'r cynllun am flynyddoedd, ond ni wahaniaethwyd rhwng y naill flwyddyn a'r llall. Y mae ysgolheigion newydd yn cael eu hychwanegu, ond ni ddangosir pan fu farw neu y symudodd neu'r esgeulusodd neb. Y mae'r holl enwau a rowd i lawr yn 944, sef 495 o feibion a 449 o ferched. Y mae 51 o athrawon dros ben hyn, tair o'r nifer yn ferched. Yr ieuengaf o'r ysgolheigion yw William Williams, 3 oed, bachgen Owen Williams Penrallt uchaf. Yr hynaf ydyw Lettice Thomas, 63, Pentrenewydd, gradd 6. Ymddengys rhif tebyg i 73 gyferbyn â Jane Williams, Hole in the Wall. Tebyg mai marc yr inc sydd yma oddiwrth y ddalen gyferbyn, gan y rhoir John Williams fel rhiant, a nodir 2 fel ei gradd, ac ymddengys yr enw ynghanol rhai ieuainc eraill, ac nid yw'r rhif 7 yn debyg iawn i'r un rhif mewn mannau eraill. Rhif yr ysgolheigion sydd wedi cyrraedd dros 20 oed, 55. Ni roir oedran yr athrawon. Gwnawd defnydd pellach o'r llyfr hwn yn 1836. Rhoir i lawr enw'r athro, a nodir mewn gwahanol golofnau prun ai'r Beibl ynte'r Testament a ddefnyddid, a'r "graddau" a'r "egwyddori," ac y mae colofn i nodiadau. Rhoi'r i lawr gerbron yma bob dosbarth y mae nodiad ar ei gyfer. H. Robt., Bible, 5, Da, dim, 2 Blentyn. R. Rob., Bibl, 4, Da, Hyfforddwr, 1 Plentyn. W. Jones, Test., 1, Llesg, Hyfforddwr, 1 Plentyn. [?] Hughes, Test., 3, llesg, R Mam, I Dyn 2 blentyn. S. Hobley, Bible, 3, G. dda, Hyfforddwr, Ei blant ei hun. R. Williams, Bible, 4, da, Hyfforddwr, Oll yn debyg. John Williams, Test., 4, llesg, dim, anwastad. Dd. Jones, Bibl, 4. Canolig, Hyfforddwr, I Egwan. W. Davies, Bibl, 4, Canolig, [dim enw], Cymysg. W. Owen, Test., 7, Canolig, Hyfforddwr, Gwastad. Craffer ar y rhestr yna, ac fe welir fod yna safoni