Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofalus yn 1836, ac, fe ddichon, mor ofalus yn 1813, sef yn gynarach nag y tybir weithiau, fel y digwydd, hefyd, gyda rhai dyfeisiau eraill. Yr oedd Robyn Ddu yn 9 oed yn 1813. Y mae dau Robert Parry ar y rhestr, ond nid yw ef yma. Efe a ddywed yn ei Deithiau (t. 15) fod ei fam yn aelod ffyddlon gyda'r Trefn— yddion Calfinaidd, ac mai i'w capel hwy y danfonid ef i'r ysgol Sul, ac i wrando pregethau, ac y dysgodd yno ugeiniau o benodau, salmau a hymnau, ynghydag Holwyddoreg y Parch. Thomas Charles o'r Bala, a darfod iddo eu hadrodd ar gyhoedd yn yr ysgol. Eithr fe ddywed, hefyd, y mynych deithiai i gapel yr Anibynwyr, Pendref, i'r ysgol, ac yna, wedi myned yn brentis crydd at William Parry, aeth gyda'i feistr i ysgol y Wesleyaid. Fe ddywed na tharawyd mono erioed gan athro na meistr, na chan ei dad onid unwaith.

Rhydd Mr. Morris Roberts ei atgofion am yr ysgol. Dosbarth o ddynion ieuainc oedd gan Richard Davies. Gofalwr am y capel oedd William Roberts, a chanddo ddosbarth A B C. Yr oedd ganddo strap lledr at wastrodedd y plantos. Gwr deheuig oedd ef, gan y rhoe bedair canwyll y pulpud allan yn unig gan gau ei fys a'i fawd. Athro llafurus, yn darpar yn fanwl, oedd Evan Richardson Owen. Bu Mr. Roberts yn nosbarth Henry Jonathan, gyda Walter Hughes, goruchwyliwr y banc a William Williams athro yr ysgol Frytanaidd. Darllen y bennod gyntaf yn Efengyl Ioan. Pwysleisio oedd dawn arbennig Walter Hughes. Yr athro yn benderfynol iawn dros ei olygiad ei hun. Arferai ddyfynnu gwahanol awduron, yn enwedig Chalmers. Hoff o godi cwestiwn ar sylw a ddyfynnid ganddo. A'r tebycaf ei farn i'r awdwr fyddai'r gwr cymeradwy gan yr athro bob amser. Bu W. P. Williams yn holi'r ysgol. am fisoedd cyn adeg diwygiad 1859. Holai bob dosbarth. drwy'r ysgol ar ei ben ei hun, feallai ddau neu dri dosbarth bob Sul. Un o'r pynciau,—Y profion o ddwyfoldeb y Beibl, (1) profion allanol, (2) profion mewnol. Rhoes ddau gwestiwn i ddosbarth Evan Richardson Owen, a dyna un ohonynt, A wnaeth Crist a'i apostolion wyrthiau? Rhoid y cwestiynau wythnosau o flaen llaw. Sonia Mr. Roberts am ddau hen frawd yn cael eu penodi gan y Cyfarfod Athrawon i ymweled âg esgeuluswyr, sef John Parry siop, Stryd llynn, ac un arall o'r enw Jones. Yn ddiweddar yr oedd John Parry ei hun wedi dod at grefydd. Bu'r ddau wrthi am fisoedd, a llwyddasant i gael