rhwng 50 a 60 i'r ysgol, a nifer ohonynt i ymroi i grefydd ar ol hynny. Sylwa W. P. Williams mai chwaer William Roberts, y gofalwr am y capel, a fu'n wraig i Mr. Lloyd. Bu ef ei hun yn athro plant am 60 mlynedd, fel mai ffrwyth maith brofiad oedd y defnydd o'r strap lledr, neu o leiaf ei gadw yn y golwg. Clywodd W. P. Williams ef yn dweyd na chollodd ond tri Sul o'r ysgol mewn 60 mlynedd.
Dyma sylw Mr. Evan Jones ar yr ysgol yn 1856: "Yr oedd yr ysgol Sabothol ym Moriah mewn cyflwr hynod lewyrchus, yn llawn y llawr a'r llofft... Un o'r arolygwyr oedd Mr. Richard Williams, yr ironmonger, gwr bychan gwynebgoch, yn cerdded yn fân ac yn fuan. . . . Byddai, unwaith yn y flwyddyn, o leiaf, yn myned i'r pulpud brynhawn Saboth, yn yr ysgol, i rybuddio plant rhag torri gerddi a thynnu nythod adar . . . . Yr oeddwn yn aelod o ddosbarth a gedwid yng nghongl uchaf yr oriel, uwchben y drws, ar y llaw dde wrth fyned i mewn. Yr athraw oedd Mr. William Williams Coed- bolyn. . . . Ar ein cyfer, yn ongl arall i'r oriel, yr oedd dos- barth Mr. Jonathan-hen ddosbarth f'ewyrth Richard Jones, wedi hynny o Chatham Street, Liverpool, a thad Mr. R. W. Jones (Diogenes) a'r Parch. Richard Jones Mancott."
Bu amryw ganghennau i ysgol Moriah. Ysgol Lôn Glai oedd cychwyn yr achos yn Nazareth; ysgol Isalun oedd cychwyn yr achos ym Mhenygraig; ysgol Tanrallt a arweiniodd i ysgol Siloh bach, a hynny, drachefn, oedd cychwyn Siloh, ond yno yr oedd Engedi yn rhannog yn y gwaith. Bu ysgol yn cael ei chynnal yng Nghowrt y boot, lle bu William Davies, y blaenor wedi hynny, ynghydag eraill, yn ffyddlon. Oddiyno yr awd i Glan y môr, tua'r un adeg, y mae W. P. Williams yn meddwl, ag y dechreuwyd yn Siloh bach, sef 1856. A dywed mai mewn llofft isel y dechreuwyd yng Nglan y môr, gyda grisiau cerryg oddiallan i fyned iddi. Cedwid mul neu ddau ar y llawr o dan y llofft, a phan elai'r mul i nadu, neu'r ddau gyda'i gilydd, rhuthrai nifer o'r plant allan yn eu dychryn. Bu Robert Davies Bodlondeb, Treborth, yn athro yn y llofft yma. Daeth Joe Llanrwst yno unwaith mewn diod. "Tyn dy het, Joe," ebe Robert Davies. "Na wna ddim," ebe yntau. "Cofia mai addoli Duw yr ydan ni." Eithr ni thyciai hynny chwaith. "Gwna o barch i'r Brenin Mawr." "Na wna ddim," ebe Joe. "Gwna o barch i mi." "O, gwna, syr, o barch i chwi," ebe