Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Joe, a thynnodd ei het. Fe gafwyd lle mwy cyfleus yn y man yn uwch i fyny, a buwyd yno am rai blynyddoedd. Bu raid symud oddiyno, a'r lle nesaf ydoedd y man y cychwynnwyd y capel Seisnig, a'r lle y cychwynnodd Byddin Iachawdwriaeth yn y dref, ac a ddefnyddir fel ysgol a lle cenhadol o hyd. Ond dyma atgofion Mr. Morris Roberts am yr ysgol: "Ryw bnawn, dyma Joseph Hobley, arolygwr ysgol Glan y môr, i fewn i Foriah, yn chwilio am ddau athro. Syrthiodd ei feddwl ar John Richardson a minnau. Gwnaethom oreu a allem o'r ruffians. Bum yn cwyno yn y cyfarfod athrawon, ond cymhellwyd fi i aros, ac arosais am rai blynyddoedd. Bum yn dysgu dosbarth o ddynion ieuainc i ddarllen yno. Eifioneilydd a Robert Owen y glo yn dod yno un Sul. Ymhen rhai Suliau, gwr dieithr yn dod gyda hwy, a hwnnw yn chwareu'r amheuwr. Deallais wedyn mai is-olygydd yr Herald ydoedd, wedi bod yn weinidog eglwys fawr gyda'r Anibynwyr yn y Deheudir, ac wedi colli ei draed gyda'r ddïod. Ni ddaethant yn ychwaneg. Yr oedd John Lloyd, cabinet maker, yn fy nosbarth, yn fachgen direidus, ac wedi dechre myned dipyn yn ofer. Daeth ar ol hynny yn aelod o eglwys Moriah. Yr oeddwn yno yn y seiat wedi i Mr. Evan Jones ddod yno. Galwai John Lloyd ef ato, fod arno eisieu dweyd gair wrtho. 'Hen athraw a disgybl sydd wedi digwydd cyfarfod yma heno," meddai. Yr ydwi'n cofio fy hun yn hogyn direidus, drwg, yn yr hen ysgol yng Nglanymôr. Ryw bnawn Sul aeth dau neu dri ohonom i'r ysgol yn hwyr. Gofynnodd yr athraw, Pam na fuasech yn dod yn brydlon? Dywedais innau mai yn y fan a'r fan yr oeddym, a ninnau wedi bod mewn lle na fynnem iddo fo wybod. Ond mi feddyliais arno ei fod yn fy ameu. Edrychais ym myw ei lygaid, er mwyn gwybod hynny, a gwelwn ddeigryn yno. Os achubwyd fi o gwbl, y mae fy achubiaeth yn ddyledus i weled y deigryn hwnnw yn llygad fy hen athraw.'"

Dyma atgofion y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, Morgannwg, am Lanymor. "Y rhai cyntaf aeth i ofalu am y lle oedd Robert Williams (Robert and Jane), Griffith Jones cigydd, Richard Rowlands, a fu gyda Mr. John Owen Tŷ coch, W. Jones Glanymôr, a ddiweddodd ei ddyddiau yn Llundain, a Thomas Hughes, arweinydd y canu. Daeth eraill wedyn, megys William Davies y rhaffwr, John Richardson, Mr. Morris Penrallt. Byddem yn cael pregeth yn aml am hanner awr wedi