pedwar. Cof gennyf am John Owen Bwlan yn cael odfeuon grymus iawn yno." Mewn blynyddoedd diweddarach, bu Hugh Pugh Llys Meirion yn dra ffyddlon yma.
Dyma adroddiad ymwelwyr y Canmlwyddiant (1885): "Hon yw ysgol luosocaf y dosbarth, yn rhifo yn agos i 500. Y mae'r ysgol wedi mabwysiadu'r cynllun safonol, ac ar y cyfan profa'n fanteisiol. Y mae'r ystafell dan y capel i'r plant ieuengaf. Yr oedd yma ddau ddosbarth mawr yn y wyddor dan ofal brawd a chwaer. Tybiem y buasai pedwar athraw yn well na dau. Yn y capel, yn y dosbarthiadau hynaf y mae rhai darllenwyr da, yn medru nid yn unig ddarllen yn gywir o ran sain ac acen, ond gosod allan y synnwyr wrth ddarllen. Y mae lliaws yn mynnu. cloddio a myned yn ddwfn wrth ddarllen. Fe gymerai pob dosbarth ei faes ei hun, a chymerai pob athro ei drefn ei hun. O bosibl y byddai cadw at ryw drefn neilltuol, yn enwedig yn nosbarthiadau y bobl ieuainc, yn fanteisiol. Byddai mwy o sylw i brydlondeb yn brydferthwch. Gormod anghyfartaledd rhwng y gynulleidfa a'r ysgol. Eisieu ysbryd cenhadol i fyned at y gwrandawyr. Peth arall angenrheidiol yw mwy o ymgysegriad i gymeryd dosbarthiadau, nid am dymor ond am oes. Ysgol genhadol ydyw Glanymôr. Rhydd un o flaenoriaid Moriah ei bresenoldeb yma yn gyson, gan gymeryd gofal dosbarth. Dangosir ffyddlondeb a hunanymwadiad mewn ymgymeryd â bod yn athrawon. Plant gan mwyaf sydd yn yr ysgol, a'r mwyafrif yn esgeuluswyr ar foddion eraill. Y mae'r plant hyn. yn dra aflywodraethus, a cheir trafferth blin gyda hwy, ond fe wneir yma waith bendithiol; ac y mae gan y rhai a lafuriant yma le i ddisgwyl nad yw eu llafur yn ofer. Yr oedd dros gant yn bresennol. Dywedid y gallesid cael ychwaneg i'r ysgol ped ymgymerid â myned i chwilio am danynt, ond fe deimlir anhawster i gael digon o athrawon i ofalu am y rhai a ddeuant. Dylid mabwysiadu byrddau gyda'r wyddor arnynt. Ystafell eang. Holi bywiog yn y Rhodd Mam. Ysgrifennydd medrus, athrawon gwybodus. Ychydig welliant yn y cynlluniau a wnae ysgol wir dda."
Richard Owen, gwr y Mari Hughes a ofalai am y tŷ capel, o'r cychwyn feallai, a arferai fynychaf arwain y canu. Yr oedd y ddeuddyn hyn yn wir wasanaethgar i'r achos yn eu gwahanol ffordd. Bu Mari Hughes yn cadw'r tŷ capel am 40 mlynedd. Clompen dew, rywiog, oedd Mari, a arferai dynnu yn ei chetyn