Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwta o flaen y tân. Dywed W. P. Williams mai'r cyntaf a neilltuwyd i arwain y canu oedd Edward Meredith. "Yr oedd yn deall rhyw gymaint am nodau canu, ac yr oedd ganddo lais rhagorol, llais mawr, llawn o fiwsig. Yr oedd yn gydnabyddus iawn â'r tonau a arferid y pryd hynny. Fe ddywedir, pan y byddid yn cynnal y Sasiwn yn y cae o dan y Twtil, y byddai llais Edward Meredith, yr hwn a arweiniai y canu, i'w glywed o ben y Twtil, dros y gynulleidfa fawr o ddeg i bymtheng mil. Yr oedd ganddo bulpud bychan wrth ochr y pulpud y byddai'r pregethwr ynddo, ac yn hwnnw y byddai'n arwain y canu. Yr oedd yn ddyn gwir grefyddol, ac yn gymeradwy iawn gan ei holl frodyr. Yn 1819 ymadawodd o Gaernarvon i Gaergybi." Yna bu Richard Jones y Traian yn arwain am rai blynyddoedd, gyda llais gweddol dda, a chydnabyddiaeth â'r hen donau. William Jones Twtil bach oedd yr arweinydd nesaf. Anaml y methodd ganddo daro ar y cywair priodol. Cyfeirir at y canu gan Mr. Evan Jones, fel yr ydoedd yn 1856-7: "Safai'r pulpud y tuallan i ochr yr oriel ar y tu deheu, ar golofnau, ar ei ben ei hun, ond yn gysylltiedig â'r oriel, yn union gyferbyn a drws y capel, fel yn awr. Yn yr oriel hon, y tu ol i'r pulpud, yr eisteddai'r cantorion. Arweinid y canu gan Mr. William Jones Twtil bach, yr hwn oedd yn awr yn tynnu i fyny mewn oedran, a Mr. William Griffith, yr hwn a ddaeth mor adnabyddus ac enwog fel cerddor ac arweinydd canu ym Moriah am dros hanner can mlynedd. . . . Perthyn i'r hen ysgol yr oedd William Jones, yr arweinydd hynaf. Yr oedd Mr. William Griffith yn irder ei nerth, yn deall canu yn dda, yn hyddysg yng ngweithiau'r prif gerddorion, yn arweinydd galluog, yn llawn ynni a brwdfrydedd." Dywed Mr. Henry Owen y byddai William Jones, ar ol y casgl, yn rhoi'r penillion allan i'w canu mewn llais tenor clws, gan arwain gyda'r hen donau yn sicr iawn wrth y glust. Dywed W. P. Williams mai pan fu farw William Jones y dewiswyd William Griffith yn arweinydd, er mai efe yn ymarferol oedd yr arweinydd ers rhai blynyddoedd cyn hynny. "Heblaw ei fod yn feddiannol ar lais hyfryd, yr oedd hefyd yn deall emynyddiaeth yn drwyadl, . . . . ac yr oedd yn gallu cymhwyso tonau priodol at yr emynau a roddid allan i'w canu. . . . Yr oedd eglwys Moriah a'r gynulleidfa yn gwerthfawrogi gwasanaeth Mr. Griffith fel arweinydd y gân, ac yn 1866 anrhegwyd ef â'i ddarlun. . . . Eto, yn 1891, anrhegwyd ef âg awr-