Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfaill mwy serchog hefyd.
Haeddai barch ni feddai byd,
Ofni Duw yn fwy na dyn
Heb wrando ar glebr undyn
Bywyd hoff iawn mewn byd ffol,
Diddichell, da, heddychol,
A arweiniai o rinwedd
Hyd awr fud a duoer fedd.—(G. Cawrdaf.)

Gwr go arw ei ymadrodd oedd Elias Williams. Pan ofynnid. iddo fyned i wylnos i'r fan a'r fan, gofynnai yn ol, "A oes yno garped?" gan awgrymu na ofynnid iddo ef fyned ond i'r lleoedd tlotaf. Ar ol dodi carped ar y sêt fawr nid elai yno o'i fodd i weddïo. Pan bwysid arno gan Lewis Lewis i ddod ymlaen i'r sêt fawr i gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi, fe atebai yntau yn ol, "'Dydw'i ddim wedi arfer gweddïo ar garped, Mr. Lewis." Fe arferai eistedd ar y sêt agored ar ymyl y passage, fel gwrthdystiad mae'n debyg, yn erbyn yr arfer o eistedd mewn seti caëedig. Dywed Mr. W. O. Williams ei fod mewn gweddi fel dyn yn siarad yn ei lais naturiol gyda'r Brenin Mawr. Yr ydoedd yn frawd i gymeriad arall, sef Thomas Williams, porthor y tloty (Engedi). Cof gan Miss Dora Davies am Griffith Jones Cae'rmur, gyda'r cap melfed du am ei ben, a dywed, gan fod ganddo bellter ffordd i fyned adref o'r moddion nosweithiau'r gaeaf, ac yntau yn hen wr, y gofynnid iddo weithiau, onid oedd arno ddim ofn? ac mai ei ateb fyddai na byddai efe byth ei hunan,—fod ei Dad Nefol gydag ef ddydd a nos. Dyma sylw Mr. Henry Owen arno: "Efe fyddai'n arfer diweddu y cyfarfod diolchgarwch. Yr oedd yn hynod mewn gweddi. Ei nodwedd ydoedd cariad at Iesu Grist. Yr ydoedd yn dduwiolfrydig, yn syml iawn, ac megys plentyn. Canmolai'r Gwaredwr yn ei weddi, gan arfer geiriau serch—ein hanwyl Arglwydd': yr ydoedd wedi cael gafael gref ar yr ochr honno i Grist. Siaradai â Duw fel plentyn â'i Dad—'ein Tad nefol.'" Thomas Williams Stryd llyn, a ddaeth yma o Benygraig tuag 1880. Dywed Mr. Henry Owen fod nodau hynod yn ei lais, y dechreuai weddio yn araf, ac y codai i gywair uchel, mewn llais clws, gydag iaith goeth pan ar ei liniau, er heb ddangos gwybodaeth ar bynciau athrawiaethol i'r graddau a debygasid. Gofalwr am y capel oedd Thomas Parry y cwper. Dyn braf, diniwed, syml, ebe Mr. Henry Owen, a'r geiriau, "Achub ni wrth y cannoedd a'r miloedd" yn faich ei weddi. Dywed Mr. W. O. Williams y