Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

distawai efe ffrae yn y fan yng Nglanymor, a bod ei ddylanwad ar eraill, o fewn ei gylch priodol ei hun, yn rhywbeth nodedig. Yr oedd William Morris, ebe Mr. Williams, yn weddiwr hynod ac yn gristion trwyadl. Ei breswylfod ydoedd Cowrt yr ieir yn Stryd llyn (Baptist Court). Yr oedd prif bobl Moriah yn ei gynhebrwng, ac yn eu plith un o ynadon y sir, yr unig un yn y swydd y pryd hwnnw ymhlith ymneilltuwyr y sir, debygir; a chludid ei gorff ganddynt o Gowrt yr ieir i fynwent Llanbeblig, tra'r oedd ei enaid ymhell uwch eu llaw hwy i gyd. Sylw Mr. Williams ar Edward Jones y cigydd, Hole in the Wall, ydyw, ei fod yn weddiwr hynod—"fedrechi yn eich byw beidio teimlo fod y gwir beth ganddo." Robert Jones yr Ant oedd yn ddyn cywir, gyda gweddïau nodedig am eu cyfeiriad uniongyrchol. Sonia Mr. Williams am John Lloyd fel ceidwad y drws ym Moriah, ac fel gwr selog a gweddiwr hwyliog. Bu'n feddwyn cyhoeddus amlwg. Pan fyddai'n anhawdd cael neb i ddechreu'r ysgol, nid oedd eisieu ond apelio at John Lloyd. Yr oedd yr atgof am ei sefyllfa flaenorol fel meddwyn yn boen iddo. Aeth trwy gyfnewidiad trwyadl. Owen Barlow ydoedd. engraifft o wr a addfedodd yn niwedd oes. Meddai ar allu meddwl a chraffter sylw, a danghosai aiddgarwch gyda'r gwaith o ddysgu ieuenctid. Byddai Capten Prichard, ebe Mr. Williams, yn gweu cymhariaethau morwrol i'w weddïau—"tonnau temtasiynau y byd." Robert Griffith, tad W. Griffith yr arweinydd canu, a gyhoeddodd yr adargraffiad o Destament Salesbury. Yr oedd yn wr urddasol yr olwg arno, ac yn meddu ar ddawn siarad neilltuol. Gwr a llais go fain ganddo oedd Ioan Glan Cledr, a byddai ei sylwadau yn torri i'r byw mewn achos o ddisgyblaeth. Yr oedd yn ddarllenwr trwm, ac yn fardd coeth. Sylwa Mr. Henry Owen fod gan Richard Davies, mab Mali Griffith, allu dadleuol anarferol. Yn yr wrthblaid i blaid y blaenoriaid y byddai yn gyffredin. Siaradwr ymresymiadol, yn codi i danbeidrwydd ar brydiau, ac yn y tanbeidrwydd hwnnw yn cael ei gario i eithafion weithiau. Yn wr gonest, cywir, er hynny. Yr oedd yn ysgrifennydd medrus: gwnaeth ymosodiad ar Addysg Chambers yn yr Herald Cymraeg. Efe ydoedd adeiladydd y Neuadd Sirol. Geilw Mr. Evan Jones ef yn ddyn galluog, ac yn arweinydd dynion galluog ym Moriah. William Davies y rhaffwr ydoedd un o'i brif ddilynwyr. Yr oedd ef yn wr prydweddol, glandeg, gyda dawn ymadrodd