Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

naturiol, a dull ac iaith a materion chwaethus, ac yn siaradwr campus ar ddirwest. Symudodd i Nerpwl. Cymerir rhai cyfeiriadau at bersonau allan o Adroddiad yr Eglwys.— Ffoulkes Eleanor St., yr hwn er nad oedd ond ychydig amser er pan symudasai i'r dref hon o Earlestown, lle y dewisasid ef yn flaenor, a enillodd y fath radd dda ymhlith ei holl frodyr fel gwr addfwyn, iselfryd, gweithgar a duwiol, nes y teimlid fod ei farwolaeth yn golled gyffredinol, a'i goffadwriaeth yn fendigedig (m. 1877). Un hynod iawn oedd Griffith Jones Cae'rmur. Job arall oedd. Bu unwaith yn amaethwr cyfrifol; ond cymerodd yr Arglwydd y cwbl oddiarno. A phan ofynnwyd iddo a garai i'w ewyllyswyr da wneud ei golled i fyny, atebodd na fynnai, am y credai mai ewyllys ei Dad Nefol oedd cymeryd y cwbl oddiarno er mwyn iddo gael mwy o chware teg i fyfyrio am bethau mwy. Yr oedd yn ddyn mawr ym mhob ffordd—mawr o gorff, mawr o feddwl, mawr mewn profiad, a mawr iawn mewn gweddi. Bu farw mewn henaint teg yn 92 mlwydd oed (m. 1884). Walter Hughes, goruchwyliwr banc y maes, oedd wr haelionus, a chafodd y tlodion golled ddirfawr ar ei ol. Yn wir grefyddol o ran deall a theimlad. Yn Ynad Heddwch dros y fwrdeisdref (m. Medi 12, 1890).

Fe grybwyllwyd peth eisoes am Elizabeth, gwraig gyntaf Evan Richardson, ac am Esther eu merch, ac am Mari Hughes. y tŷ capel. Ann Williams, y sonir am dani fel Elinor Williams yn y Methodistiaeth, oedd ail wraig Evan Richardson, megys ag yr oedd yntau yn ail wr iddi hithau. Peter Ellis oedd ei gwr cyntaf, ac yr oedd hi yn ail wraig iddo yntau. Owen Ellis, a fu'n flaenor ym Moriah, oedd fab iddo ef o'i wraig gyntaf, a Peter Ellis y masnachydd oedd fab iddo o Ann Williams. Y mae cymaint a hyn o eglurhad yn gryn help i ddadrys cysylltiadau amryw o hen deuluoedd y dref. Nid yw hyd yn oed W. P. Williams wedi dadrys y dirgelwch, gan y tybia fod Owen Ellis yn fab i Peter Ellis o Ann Williams. Am dani hi y dywed y Methodistiaeth: "Soniai yr hen bobl lawer am Elinor [Ann] Williams, y modd y torrai allan yn yr odfeuon yn llofft Tanrallt, gan lawned oedd ei llestr o orfoledd yr iachawdwriaeth, a'r modd y baeddid hi gan yr erlidwyr drwy ei llusgo drwy afon Saint; ac onibae i rywrai sefyll drosti a'i hamddiffyn nid oes wybod pa draha a wnaethid." Chwanega W. P. Williams: "Yr wyf yn cofio am Ann Williams yn dda, ond yr oedd y pryd