Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phwyll a'i doethineb, tra'r oedd yr un pryd yn meddu ar serch— iadau naturiol cryfion iawn. Ymddengys ei bod yn cyfranogi. i raddau helaeth o amgyffredion cryfion ei brodyr enwog, Robert Roberts [Clynnog] a John Roberts, yng ngwirioneddau yr Efengyl. Yr oedd ganddi hoffder mawr at ddarllen. Heblaw y Beibl ei phrif lyfr—derbyniai brif weithiau crefyddol Cymreig y blynyddoedd hynny.... Wedi bod yn brysur trwy y dydd... arferai ym mlynyddoedd ei gweddwdod aros i fyny y nos am oriau i ddarllen y Beibl a'i hoff lyfrau. . . Yr oedd . . . . ei phrofiad yn gyfryw o ran blas a sylwedd na chlywid ei fath yn gyffredin. . . . Yr oedd parch a serch ei phlant tuag ati yn ymylu ar addoliad. . . . Yr oedd braidd yn dal o ferch; ei gwynepryd yn feddylgar—ddifrifol, a doethineb yn ei lewyrchu; ei gwedd yn urddasol a phrydferth, yn gorchymyn parch ac yn ennill serch ar unwaith." (Cofiant Eryron, t. 15.) {{center block| <poem> Hardd fu'th rodiad trwy dy fywyd, Pob rhyw rinwedd ynot gaed; Deddf dy Dduw oedd yn dy galon Yn unioni llwybrau'th draed.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Merch i Ann Owen, a gwraig Edmund Parry, a mam y Dr. Griffith Parry, oedd Catherine Owen. Dyma fel y dywed ei mab am dani: "Yr oedd fy mam yn wraig a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai, ar gyfrif ei synnwyr cryf, a'i duwioldeb dwfn, ond distaw a hynod ddiymhongar. Yr oedd ei medr yn ei holl ddyledswyddau teuluaidd, a'i gofal ffyddlon i'w gyflawni, yn nodedig. . . . Er nad oedd neb yn y cyffredin yn fwy siriol, tuedd naturiol ei meddwl oedd i edrych ar yr ochr bruddaidd. . . . Bu fy anwyl fam farw yn llawn o'r tangnefedd sydd trwy gredu, mewn hyder tawel a diysgog ar yr hwn a osododd Duw yn iawn. Dywedai wrthyf ychydig oriau cyn marw, 'Paid a wylo, Griffith bach, ni a gawn gyfarfod eto yn un teulu gogoneddus.' Dywedai hefyd, Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr, rhwng fy mronnau yr erys dros nos. Un o'r geiriau diweddaf a ddywedodd oedd, A thalwn i ti loi ein gwefusau. A'r gair diweddaf oll, bron wrth roddi yr anadliad olaf, oedd,—Yn yr Iesu. Bu farw Gorffennaf 22, 1856, yn 59 mlwydd oed." (Cofiant Eryron, t. 257.)