Mewn newydd iaith, mwyn "Iddo Ef"—a ddyrch,
Bydd ardderchog gydlef!
"Gwefusau loi" 'n gofus lef
A leinw deml y wiwnef.—(Eryron Gwyllt Walia.)
Fe welir fod yma glwstwr o ddoniau yn y teulu hwn. Gwelwyd hynny o'r blaen yn hanes yr un teulu yng Nghlynnog. Bernir gan rai mai dyma'r teulu hynotaf mewn talent yn sir Gaernarvon neu yng Nghymru. Dyma sylw Mr. Griffith Parry (Llanrug) ar Kitty Jones: "Yr oedd hi'n gymeriad hynod a duwiol. Mi fyddai'n orfoleddus iawn ar adegau, yn neilltuol yn y cymundeb. Byddai'n gweiddi allan am i'r Iesu mawr faddeu ini ein calonnau oerion. Bum yn ymweled â hi ar ei gwely angeu, ac yr oedd yn cael mwynhad mawr yn y pennill hwnnw, Rwyf yn dechreu teimlo eisoes Beraroglau'r gwledydd draw; a phan yn dweyd y llinellau, Tyrd y tir dymunol hyfryd, Tyrd yr ardal sydd heb drai, pwysleisiai y geiriau ac edrychai i fyny, gan wir awyddfryd am eu sylweddoli. Adroddai, hefyd, y pennill hwnw, Anghrediniaeth, gad fi'n llonydd. Bu farw yn orfoleddus iawn." Y mae gan Mr. Morris Roberts atgof am rai hen chwiorydd: "Marged Barlow, mam Owen Barlow, oedd wlithog ei phrofiad yn wastad. Catherine Jones, gwraig William Jones yr arweinydd canu, fyddai'n gorfoleddu wrth wrando pregethau. Ar ymyl y galeri, wrth wrando ar John Jones, Dafydd Jones, John Phillips, byddai'n ysgwyd fel baloon, yn sefyll ar ei thraed, ac yn chwifio'r cadach coch. Hyn. yw'm hangor ar y cefnfor, Na chyfnewid meddwl Duw,—a chyda'r geiriau elai trydan drwy'r gynulleidfa, a hithau yn torri allan gyda'i Diolch! Bendigedig! Yn fuan ar ol ei sefydlu ym Moriah, aeth Mr. Evan Jones at hen chwaer oedrannus, anllythrennog, o 85 i 90 oed,—Emma Parry. Ac meddai hi wrtho, 'Wel, Mr. Jones, pan mae'r pregethwyr yma yn trin yr ysgrythyr, 'dydwi'n deall dim arnyn nhw; ond pan y mae nhw'n mynd i rywle i gymdogaeth y Groes, yr ydwi'n gallu i dilyn nhw.' Sylwodd Mr. Jones y buasai'n dda ganddo, pe buasai yno gannoedd o bregethwyr yn y lle yn gwrando, er mwyn iddynt ddeall pa fodd i bregethu'r Efengyl i bechaduriaid." Yr oedd Mali Griffith, mam Richard Davies yr adeiladydd, yn wraig o gynneddf gref ac o brofiad ysbrydol. Yr oedd Jane a Mary Roberts, merched ynghyfraith i Dafydd Rowland y blaenor, yn ferched hynod am eu duwioldeb. Yr oedd Jane ac