Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elin Williams, chwiorydd Dafydd Williams y pregethwr, yn aelodau ym Moriah ers blynyddoedd, wedi bod cyn hynny yn Engedi. Meddent ar ryw ddifrifwch arbennig. Yr oedd Jane Williams yn dra thebyg yr olwg arni i'r lluniau a welir o hen santesau Pabaidd, yn ddwys-ddifrif, a chyda'r llygaid yn troi tuag i fyny. Tra manwl eu ffordd. Yn eu tlodi deuai cymdoges a chinio iddynt ar y Sul. "A ydych yn sicr nad ydych ddim. wedi ei wneud heddyw," ebe hwythau. Yr oedd eu hymddiddan yn adeiladol ac yn gyfoethog o hanesion. Canodd Jane i Joseph, llywodraethwr yr Aifft, a phethau eraill; ond gan Elin yr oedd y meddwl mwyaf hoew a'r cyffyrddiadau mwyaf neilltuol mewn ymddiddan. Yng nghynhebrwng Jinnie Parry (m. Ionawr 2, 1854, yn 68 oed), gwraig Robert Griffith y cyhoeddwr llyfrau, a mam William Griffith yr arweinydd canu, fe ddywedai Dafydd Jones ei bod hi wedi cael mynediad helaeth. i ogoniant. "Pam yr wyti'n dweyd hynny? O! ei bywyd addas hi." Harriet, priod Thomas Hughes y pregethwr, a ymroes i fasnach er mwyn rhyddhau ei gwr i wasanaeth crefyddol, a meddai ar ddawn arbennig yn hynny, cystal a'i bod mewn cydymdeimlad llwyr â'r gwr yn ei ymroddiad i wasanaethu'r eglwysi yn y dref. Bu Jane Hughes Pontrobert yn trigiannu yn y dref am ysbaid, a deuai i'r moddion yma. Meddai hi ar ddawn ymadrodd helaeth, ac ni fynnai i neb gyfyngu arni o ran amser. Pan geisiai Walter Hughes wneud hynny ar un tro, torrodd. allan, "Taw di'r, bachgen main!" Heblaw dawn ymadrodd, yr oedd ganddi hefyd wybodaeth ysgrythyrol ac athrawiaethol helaeth. Yr oedd (Mrs.) Griffith, priod W. Griffith, arweinydd y gân, yn gefn i'w gwr, gan ofalu am iddo fedru bod yn brydlon yn y gwasanaeth y Sul. Yr oedd ei hunan yn gyson yn y moddion. Arferai ofal mam am bobl ieuainc a letyai gyda hi. (m. Mawrth 4, 1898, yn 75 oed. Y Gymraes, 1898, t. 105.) Golchwraig wrth ei galwedigaeth oedd Kitty Owen, ond tywysoges o ran haelioni ysbryd. Rhoes sofren felen yn nwrn. Mr. Norman Davies ar un tro fel yr elai o amgylch yr ysgol gyda chasgl y ddyled. Gan ystyried y buasai swllt yn rhodd hael oddiwrthi hi, fe dybiodd yntau fod yna gamgymeriad, nes ei sicrhau i'r gwrthwyneb. Preswyliai gyda hi lodes ieuanc, yn berthynas iddi. Pan aeth hon oddiwrthi i wasanaeth fe dalodd hithau am ei heisteddle am ddwy flynedd ymlaen, rhag pan ddeuai adref y byddai heb sêt i fyned iddi. Gadawodd £10 gyda