Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mrs. Wynne Williams ar gyfer traul ei chynhebrwng rhag myned ohoni yn faich ar y plwyf. Ac yr oedd ei buchedd a'i phrofiad ysbrydol yn cyfateb i'w haelioni. Yr oedd (Mrs. John) Owen Tŷ coch, (Mrs. Cornelius) Davies, a lliaws eraill, yn wragedd boneddig, cymwynasgar, ac o ysbryd crefyddol. Y mae'r cyfeiriad at y rhai yma yn Adroddiad yr Eglwys: Yr oedd Ellen Jones yn meddu ar gyneddfau anghyffredin, a chrefydd ddiamheuol. Ni chynysgaeddwyd hi'n helaeth â da y byd hwn, ond yr oedd yn ddiamheuol am ei chymwynasgarwch i bawb a fyddai mewn unrhyw drallod neu gyfyngder. Byddai ei thŷ yn fynych fel ysbyty i gleifion ac eraill i droi i mewn iddo, ac nid oedd terfyn ar ei medr a'i charedigrwydd i weini arnynt. Yr oedd yn hynod ar gyfrif ei threfn gyda phopeth, yn neilltuol pethau crefydd. Cyfranai wrth reol, a chyfranai yn fynych yn helaeth, ie o'i hangen. Yr oedd ei diwedd yn wir dangnefedd (m. Mawrth, 1889, yn 88 oed). Ellen Trevor a ddarllenai lawer, a fyfyriai lawer, ac a gyfansoddodd lawer o benillion yn Gymraeg a Saesneg na fuasai raid i feirdd o fri gywilyddio'u harddel (m. Medi 12, 1890). Mrs. R. R. Roberts a gyfunai i raddau helaeth gymeriad Mair a Martha (m. Hydref 3, 1892).

Eglura'r gwahanol enghreifftiau o fuchedd sanctaidd a nodwyd ystyr geiriau'r bardd:

Ond yn y galon, mewn dawn gwiwlwys,
Y mae'r eglwys, gardd Paradwys.

Rhif yr eglwys yn 1901, 595. Y ddyled yn 1900, £1,942. 17s. 2g. £108. 0s. 3c. oedd swm casgl dydd diolchgarwch yr un flwyddyn.