Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y BONTNEWYDD.[1]

Y MAE'R Bontnewydd ychydig lai na dwy filltir o Gaernarvon, ar y briffordd i Bwllheli. Rhed yr afon Wyrfai drwy'r lle. Dywed Mr. R. R. Jones, gan ysgrifennu yn 1893, mai rywbryd yn nechreu'r ganrif o'r blaen, sef yn nechreu'r ddeunawfed ganrif, yr adeiladwyd y bont gyntaf; ac mai troed—bont oedd yma cyn hynny, sef cerryg hirion wedi eu dodi ar gerryg a osodwyd i lawr yn yr afon. Ae'r anifeiliaid a'r cerbydau drwy'r rhyd gerllaw. Rhoid yr enw Pont arni'r pryd hwnnw. Yr oedd sarn ryw dri chwarter milltir is ei llaw. Pan adeiladwyd pont yma oddeutu dwy ganrif yn ol fe'i gelwid yn Bontnewydd, ac aeth yr enw yn enw ar y lle. Canwyd iddi fel yma:

Pont newydd ddiogel ddigon—gadarn,
A godwyd yn Arfon,
A wnaeth Harri o waith purion
Rhag y lli, â meini Môn.

Harri oedd y pensaer, brodor o ardal Felinheli.

Yr oedd y cyffion cyhoeddus yn y pen deheuol i'r bont, lle sicrheid y meddw a'r afreolus. Adeiladwyd y bont bresennol yn 1840.

Yr oedd yma rai crefyddwyr Methodistaidd cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, ac ae y rhai'n i'r gwasanaeth yn y Waenfawr neu Frynrodyn neu Gaernarvon. Fe gyrchai nain John Griffith (Bethesda), sef Modryb Sioned Cefnwerthyd i'r Waenfawr. Yr oedd y ffordd, heblaw bod yn bell, mewn mannau yn anhawdd hefyd. Un tro, ar noson dywell yn y gaeaf, hi syrthiodd i bwll mawnog. "Wel," ebe hi, "os caf fynd i'r nefoedd, bydd yn lled ddrud i mi." Y mae cofiannydd ei hŵyr, sef John Owen Ty'nllwyn, yn sylwi ar hynny, os y llithrodd hi dipyn ar air y tro hwnnw, yn gystal ag ar weithred, ei bod, er hynny, yn un nodedig mewn crefydd, ac iddi ddangos hynny mewn oes faith. (Cofiant a Phregethau, t. vii.) Ni wyddis pa bryd y dechreuwyd cynnal gwasanaeth crefyddol yn y lle. Bu nifer o wragedd yn dod at ei gilydd i gynnal cyfarfod gweddi, y rhan

  1. Ysgrif gan (y Parch.) D. Francis Roberts (B.D.). Ysgrif ar y Bontnewydd, ei phobl a'i phethau, gan Mr. R. R. Jones (Penygroes). Ymddiddan & Mr. W. Williams Groeslon, Waenfawr.