Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amlaf mewn tŷ wrth gefn Glanbeuno, lle'r adeiladwyd y capel yn ddiweddarach.

Yn nechre y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ebe Mr. Francis Roberts, y dechreuwyd cynnal ysgol yn y tý hwnnw, gyda chynorthwy rhai o'r dref. Yn hanes Casgl Dimai'r Cyfarfod Misol, gyferbyn â Chwefror 6, 1801, ceir y nodiad: "I dalu am dŷ'r Bontnewydd, £1 Is." Deuai Doli Evans Pont y cyrnol, mam Eliseus Evans, i'r ysgol, cystal a'r Sioned William y crybwyllwyd am dani. Edrydd Mr. Francis Roberts fod Robert Jones, y gof, Caernarvon, yn siarad un nos Sadwrn yn y dref gyda thaid a nain Mr. William Jones Caemawr, a dywedai ei fod ef ac eraill yn bwriadu cychwyn ysgol Sul yn y Bont, a gofynnai iddynt ddanfon eu plant yno. Anfonwyd Elen, mam Mr. Jones, gyda'r plant eraill. Bu hi farw, Mehefin, 1894, yn 96 oed. Os nad oedd Elen ond yng ngofal y lleill, gallasai'r ysgol fod wedi cychwyn yn nechreu'r ganrif; ond os cymeryd gofal y lleill yr ydoedd, rhaid rhoi'r amser rai blynyddoedd ymlaen.

Adeiladwyd y capel yn 1807, a gelwid ef yn Gapel Cefnwerthyd, tystiolaeth i ddylanwad Modryb Sioned yn ddiau, gan mai ar dir Glanbeuno yr oedd y capel. Nodid y flwyddyn y codwyd y capel ar garreg uwchben y drws. Yr oedd y tŷ capel yn y pen agosaf i'r dref. Yr Hen Gapel yw'r enw a erys o hyd ar y tai yn y lle. Yr oedd drws o'r tŷ i'r capel; ac yr oedd y pulpud yn y talcen agosaf i'r tŷ. Dodwyd ychydig feinciau ar ganol y llawr; ac ar hyd y naill ochr a'r llall yr oedd boncyff coeden wedi ei gosod gyda cherryg yn ei gynnal. Yr oedd y drws yn y pen isaf o'r ochr agosaf i'r ffordd, gyda gris o tano. Pan atgyweiriwyd y capel ymhen rhai blynyddoedd, fe symudwyd y drws yn nes i'r pen arall, a rhoddwyd seti yn y capel, a sêt ganu yn ymyl y sêt fawr. Fe dybir mai dyma'r pryd yr adeiladwyd y tŷ capel. Am flynyddoedd ni byddai'r capel ond rhyw hanner llawn, er na chynwysai ond oddeutu 80.

Bu'r Parch. Robert Owen (Apostol y Plant) yn gweithio yma mewn ffactri oddeutu'r flwyddyn 1815. Dywed y deuai i'r ysgol bob Sul ac i'r oedfa ddau, ac i Benrallt yr hwyr. Diau mai o Benrallt y deuai'r pregethwr i'r oedfa brynhawn. Dymai lle hollol ddigrefydd oedd y Bont y pryd hwnnw. (Cofiant, t. 25). Bu John Elias a Thomas Charles yn pregethu yn yr hen gapel.