Y cyntaf i weithredu fel blaenor oedd William Griffith Cefnwerthyd. Bu ef farw Gorffennaf 20, 1819, yn 60 oed. Ni adroddir chwaneg am dano na'i fod y gwr mwyaf blaenllaw gyda'r achos ar y cychwyn. Ei wraig ef oedd Sioned William. Bu hi farw Mawrth 15, 1840. Edrydd John Owen am Morris Jones yr Hen Broffwyd yn ymddiddan â hi mewn seiat. "Pa faint a gymeri di am dy grefydd gael iti dewi cadw swn efo hi?" Edrychodd yr hen wraig yn hanner digllon, hanner dychrynedig, ac atebodd yn swta, "Ni chreodd y Brenin Mawr ddim digon i brynnu fy nghrefydd i," ateb a el i ddangos ei bod yn berchen meddwl allan o'r cyffredin.
Fe ddichon mai'r rhai cyntaf a alwyd yn ffurfiol fel blaenoriaid oedd Hugh Jones, Ellis Griffith ac Owen Williams. Yr oedd Hugh Jones mewn gwasanaeth yn y Dinas. Ymhen ysbaid ymsefydlodd yng Nghaernarvon fel masnachydd glo, ond parhaodd i ddilyn yr achos yma yn dra ffyddlon hyd henaint, ac yna ymsefydlodd yn Engedi, a galwyd ef yn flaenor yno. (Edrycher Engedi.)
Y mae Edward William, yr hen flaenor o Dalsarn, yn rhoi ei atgofion am yr hen gapel. Bu yma mewn gwasanaeth am ystod o bedair blynedd ar ddau dro gwahanol, y tro cyntaf o 1811 hyd 1814. Fel hyn y dywed: "Yn y blynyddoedd hyn nid oedd digon o broffeswyr i gadw ysgol Sabothol yn y Bontnewydd. Deuent o'r dref i'w cynorthwyo, bedwar neu bump bob Saboth, pa rai a gyfrifem fel angylion, yn llawn sel a bywiogrwydd. Un o honynt oedd Rees Jones. Cadwai fasnachdy yn y brif heol yng Nghaernarvon. Brodor o Bwllheli ydoedd debygid. Gwelwyd ef amryw droion yn dibennu'r ysgol ar ben ei ddeulin ar lawr pridd hen gapel y Bontnewydd, a'i ddagrau'n disgyn yn ffrydlif i lawr ei ruddiau. Un arall oedd Robert Jones gof Penymaes [Tre'rgof]. Byddai yntau â'i holl egni gyda'r gwaith da, yn holwyddori yn fywiog, a'r plant fel cywion adar a'u pennau i fyny. Un arall oedd gweithiwr iddo, a brodor o Eifionnydd, o deulu Bach y saint, o'r enw Griffith Roberts: llanc oedd efe y pryd hwnnw. . . . Ymfudodd [o ardal Brynengan] i'r America. . . . Pe buasai i'r gwr hwn syrthio i wrthgiliad, braidd na fuasem yn credu cwymp oddiwrth ras. Un arall oedd Richard Owen, gwr cyntaf i wraig y Parch. David Jones Treborth. Un arall oedd Robert Evans . . . . Heol y Llyn." (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 20.) Yn