Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwanegol at y rhai a nodir yma, fel yn dod o Gaernarvon i gynorthwyo gyda'r achos, fe enwir hefyd John Humphreys a John Wynne, y ddau yn bregethwyr, a Richard Evans y saer. Byddai Rees Jones, ar un bore Sul o bob blwyddyn, yn dod a'i brentisiaid gydag ef o'r dref. Cof gan Mr. Francis Roberts glywed Griffith Roberts y post yn dweyd iddo ef fod yno gyda Rees Jones ar dri thro yn y dull hwnnw.

Enwir, hefyd, Dafydd Jones Tyddyn Sais (Bodwyn yn awr) a Richard Morris Ty cnap, fel rhai fu'n flaenllaw gyda'r achos yn yr hen gapel.

Dywedir yn ei gofiant i John Griffith ddechre pregethu tua diwedd 1840, a dywedir mai yn "hen gapel gwael Bontnewydd" y bu hynny. Eithr fe godwyd Siloam, y capel presennol, yn ystod 1840, a thybir gan hynny y rhaid ei fod wedi dechre ryw gymaint yn gynt. (Edrycher Jerusalem, Bethesda.) Yr oedd Rhostryfan ac yma yn daith yn 1838. Yn 1857 trefnwyd yma yn daith gyda Chaeathro. Ar ol agor capel Penygraig yn 1863, aeth yn daith gyda'r Bontnewydd, yr oedfa 10 ym Mhenygraig.

Gorffennaf 1, 1839, cytunwyd â'r Arlwydd Niwbro am dir y capel newydd am rent o £4 y flwyddyn gyda deg swllt i lawr, ar lease o 99 mlynedd. Yr un flwyddyn gosodwyd carreg sylfaen y capel newydd. Y seiri meini oedd Meyrick Griffith Brynrodyn a John Ellis, y Sign wedi hynny. Y saer coed oedd Hugh Roberts, mab Nansi Griffith y Niwbro. Adnabyddid y capel fel un o gapelau Meyrick Griffith. Yr oedd yn gadarngryf yr olwg arno, ac yn cyfateb i'r olwg. Yr oedd meini ardderchog ynddo ymlaen. Ei ddiffyg ydoedd bod heb fargod da ac heb borth yn y fynedfa. Y draul,—£700. Agorwyd yn 1840 gan John Elias. Yr oedd cylch y gynulleidfa yr adeg yma yn cyrraedd o Blas Llanfaglan i Blas Glanrafon, ac o Blas Llanwnda i'r Hendy. Pan ymadawodd William Griffith a'i deulu o Blas Llanwnda yr oedd teimlad dwys yn yr eglwys, a chynhaliwyd cyfarfod gweddi yno y noswaith cyn iddynt fudo. Yn 1855 neu'n fuan wedyn chwanegwyd seti yn y lleoedd gweigion. yn y capel.

Yn 1846 daeth William Williams y pregethwr yma o Garneddi.

Yn 1847 fe wnawd casgl o ewyllys da tuag at gynorthwyo'r achos. Y swm,—£25 11S.