Medi, 1850, dewiswyd yn flaenoriaid, Richard Humphreys Llanfaglan ac Eliseus Evans. Yn ol Ystadegau 1893 yr oedd Eliseus Evans yn flaenor er 1844. Y mae Mr. William Williams yn sicrhau, oddiar ei atgof ei hun am yr amgylchiad, fod hynny'n gamgymeriad; a dywed ei fod tua'r adeg a nodwyd, sef amseriad a gafwyd yn anibynnol arno ef. Tebyg mai rywbryd cyn hynny y bu farw Robert Jones. Daeth ef yma o'r Wrach ddu, Môn, lle'r oedd yn flaenor. Galwyd ef i'r swydd yma. Bu'n byw yn Nhy'nrallt, ac yr oedd yn stiwart Coed Alun. Yn 1855 symudodd (Mr.) Williams i Glanbeuno o Bentraeth, Môn, a galwyd ef yn flaenor yma.
Bore Mercher, Tachwedd 9, 1859, diwrnod ffair Caernarvon, y pregethodd Dafydd Morgan yma. Yn y seiat daeth merch ieuanc ymlaen mewn dagrau, Elen Hughes Tanydderwen. Dywedodd y diwygiwr wrthi am weddio dros ei rhieni ac y deuent hwythau. Nid oedd y tad yn oedfa'r bore, ond fe aeth i oedfa'r hwyr i Rostryfan. "Beth yw eich enw?" gofynnai'r diwygiwr i'r gwr ar ben y fainc ymhlith y rhes o ddychweledigion. Richard Hughes, oedd yr ateb. "Ydych i'n dad i Elin bach?" "Ydwyf." "Ydi hi yma?" "Ydi." "'Roedd hi'n dweyd y gweddïai hi drosochi. Ddaru chi wneud, Elin?" "Do, syr, bob cam o'r ffordd adref." "Gweddïwch eto, merch i. Fe ddaw eich mam eto." A daeth y fam y nos Sul dilynol yn y Bontnewydd. Dyma bennill a genid yma'r adeg honno:
O Arglwydd Dduw Jehofa, Tro yma'th wyneb llon,
Ac edrych ar dy bobl, Sy'n sefyll ger dy fron;
Rho ras i'r bobl ieuainc, A nerth i'r canol oed,
A chymorth i'r hen bobl I gyrchu at y nôd."
(Cofiant D. Morgan, t. 478.)
Yn 1857 daeth y Parch. Dafydd Morris yma o Drefriw.
Yn 1860 daeth Capten Griffiths yma o Leyn, a galwyd ef yn flaenor.
Yn 1863 dechreuodd David Hughes bregethu yma. Yr ydoedd ar y pryd yn aros yn Glanbeuno, a symudodd oddiyma i Fachynlleth yn 1863 gyda'i feistr. Bu'n weinidog yn Llan- fechain ger Croesoswallt.
Yn 1863 yr adeiladwyd capel Penygraig. Aeth Richard Humphreys a Capten Griffiths Cefnysoedd, y ddau flaenor, yno.