Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Symudodd (Mr.) Williams Glanbeuno oddiyma i Fachynlleth yn 1863. Dywed Mr. Francis Roberts fod crefydd yn isel pan ddaeth ef yma, ac iddo fod yn foddion i greu peth cyffro yma gyda'r achos, ac iddo sefydlu cangen ysgol yn Gellachfain, lle saif Brymer Terrace. Bu'n arolygwr yr ysgol am flynyddoedd, a symbylodd liaws i ddysgu'r Hyfforddwr. Cychwynnodd glwb dilladu yn y lle, a byddai'n gwneud casgl ato; a thrwy hynny fe ddenodd liaws o blant tlodion i'r ysgol. Parhaodd y clwb i wneud ei waith am rai blynyddoedd wedi iddo ef fyned oddiyma. Canmolir ef am ei garedigrwydd at yr achos. mewn gwahanol gysylltiadau gan Mr. R. R. Jones, ond fe ddywed nad oedd efe'n cyd—dynnu yn esmwyth â'i gydswyddogion, ac yr haerid ei fod yn feddiannol ar lawn digon o ysbryd unbenaethol. Y mae gan J. Ff. J. ysgrif faith arno yn y Drysorfa am 1868 (t. 271, 394, 429). Yr oedd y Parch. John Ffoulkes Jones yn nai i'w wraig ef, a diau mai efe yw awdwr yr ysgrif. Yr ydoedd ei fodryb a'i fam yn wragedd yn arddangos prydferthwch sancteiddrwydd. Rhaid bod presenoldeb gwraig Glanbeuno cystal a'r gwr o werth dirfawr yn y lle yma, canys yr oedd awyrgylch o sancteiddrwydd yn ei hamgylchynu, ac yr oedd hi yn llawn gweithredoded da, yn ddiduedd ac yn ddiragrith. Yr ydoedd ei chymwynasau nid yn unig yn lluosog, ond wedi eu heneinio â gras, a'i hwynepryd yn pelydru tynerwch yr Efengyl. Atgof cysegredig yw eiddo'r pregethwyr, pa un ai hen ai ieuainc, a gafodd y fraint o letya yn ei thý. Rhoi'r yma rai dyfyniadau o ysgrif John Ffoulkes Jones: Derbyniodd Mr. Williams argyhoeddiad amlwg a dwfn. Aeth drwy'r bwlch yma ar ei hyd. . . . Bu am amser, fel y tystiai wrthym un tro, ar fin anobaith. . . . Daeth i'r society ar ol oedfa i'r hen frawd, Mr. John Huxley o Gaernarvon. . . . Gellid meddwl, fel y sylwa'r Parch. Robert Hughes Gaerwen, fod dyfodiad Mr. Williams at grefydd wedi cynyrchu gryn lawer o sylw, nid yn unig yn y cylchoedd agosaf, eithr hefyd drwy'r sir. Canys yr oedd efe'n aelod mewn teulu uchel. . . . Clywais mai efe oedd y cyntaf o'r teulu a ymunodd â'r Methodistiaid yn sir Fon. . . . Ymrodd lawer i ddarllen a myfyrio; a thrwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad . . . . a thrwy ymbiliau a gweddïau lawer, darfu iddo yntau gynyddu llawer.... Yr oedd ef yn awyddus am i eraill gael mwynhau yr un rhagorfreintiau. . . . Ac felly drwy ei lafur, ei ffyddlondeb a'i