weithgarwch, ynghyda'i ddoethineb a'i hynawsedd, ond yn enwedig ei ymarweddiad sanctaidd a'i ysbryd gwylaidd, gos- tyngedig, oedd fel enaint tywalltedig ar ei holl fywyd i gyd, profodd ei hun yn ddyn gwerthfawr a defnyddiol iawn. . . . Dewiswyd ef yn swyddog eglwysig . . . pan nad ydoedd eto ond dyn ieuanc naw arhugain oed. Dyma'r amser y daeth i gydnabyddiaeth a . . . John Elias. . . Perthynent i'r un eglwys, a byddent ill dau yn un ysbryd ac yn un enaid. . . . Efe oedd ei safon a'i gynllun mawr. . . . Bu dyfodiad Mr. Williams i Glanbeuno . . . . yn gaffaeliad nid bychan i'r achos yn y Bontnewydd. . . . Lled isel a marwaidd oedd yr achos. yn y lle hwn; ac effeithiai hyn i fesur mawr ar feddwl Mr. Williams. . . . Cafodd fod llawer yn y gymdogaeth nad arferent fyned i un lle o addoliad ar y Saboth. Yr oedd un ardal yn neilltuol felly, lle'r oedd y trigolion yn isel ac anwybodus iawn. . . . Ymwelodd â'r teuluoedd ei hun eilwaith a thrachefn; ond bu ei holl ymdrechiadau yn hollol aneffeithiol er eu cael i wrando'r Efengyl. "Wel," meddai Mr. Williams o'r diwedd, "os na ddeuwch i atom ni, a gawn ni ddyfod atoch chwi?" "Cewch," meddai un ohonynt; ac felly fu. Y Saboth canlynol aeth Mr. Williams i sefydlu ysgol Sul yno; a pharhaodd i fyned iddi am rai blynyddoedd; a gwnaeth yr ysgol hon er mai bechan a dirodres ydoedd, drwy fendith yr Arglwydd, ddirfawr les; canys bu'n foddion i ddwyn llawer i swn gweinidogaeth yr Efengyl; ac yr ydym hefyd yn deall i rai ohonynt ymuno â'r eglwys. Gallem feddwl fod arhosiad Mr. Williams yn Glanbeuno wedi bod yn fendith i ardal y Bontnewydd yn gyffredinol; canys drwy ei ymweliadau a'i ymddiddanion syml, bu'n foddion i beri graddau o gynnwrf a deffroad drwy'r holl gymdogaeth. Chwanegodd yr ysgol Sabothol a'r gynulleidfa. fel yr ydym yn deall, i fesur mawr; a daeth yr achos . . . i ymddiosg o'r iselder a'r llesgedd a'i nychai o'r blaen, ac i ddangos ynni ac ysbryd newydd yn ei holl gysylltiadau. Yr oedd llawer o'r ysbryd yna yn nodweddu bywyd a chymeriad Mr. Williams. . . Ei hoff arferiad ef oedd darllen y Beibl o'i gwrr, a darllenodd ef lawer gwaith drosto. . . Yr oedd yn ddyn o benderfyniad, o farn ac ewyllys gref, ac yn meddu ar lawer o ynni a gweithgarwch. . . . Ni fynegai ond ychydig o'i deimladau personol. . . Nid dyn tymerog, nwydog oedd . . . . ond dyn o ymarweddiad gwastad, ac yn meddu ar lawer
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/145
Gwedd