Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tebyg mai yn 1868 yr ymadawodd Owen Williams Tyddyn wrach oddiyma i Gaeathro, yn gymaint ag mai efe oedd trysorydd yr eglwys ac y dilynwyd ef yn y swydd honno gan John Roberts. Gwnawd ef yn flaenor yma yn 25 oed. Heblaw bod yn drysorydd cyntaf yr eglwys, yr ydoedd hefyd yn gyhoeddwr y moddion. Dywed Mr. R. R. Jones na chwynasai pe buasai raid iddo wneud y cwbl ei hunan gyda'r achos. Yr ydoedd yn selog a pharod a chywir fel Petr, blaenor y disgyblion; ac fel yntau yn llefarwr rhwydd, twymngalon. (Edrycher Caeathro.) Yn 1868 daeth John Roberts yma o Gaeathro a galwyd ef yn flaenor. Tua 1870 y symudodd Richard Morris Glanrafon oddiyma i Dyddyn ffridd, Bangor. Daeth yma o Bentrefoelas tuag 1864. Brawd oedd ef i'r Parch. Dafydd Morris. Yr ydoedd yn wr ffyddlon ac ystyrrid ef yn ddiwinydd da. Dywed Mr. Francis Roberts fod ei ol i'w weled o hyd (1899) ar rai o'i ddisgyblion. Dywedir y bu'n cynnal cyfarfod ar bnawn Sul am un ar y gloch i efrydu'r gramadeg Cymraeg. Rhaid, fe debygasid, ei fod yn rhoi rhyw ffurf ysgrythyrol ar y drafodaeth, neu nad cymeradwy fuasai ei waith yn y dyddiau manwl hynny.

Rhowd galwad i Richard Humphreys fel bugail, Ionawr 1, 1872.

Hydref 6, 1872, bu farw Thomas Owens Hendy. Fel amaethwr cyfrifol meddai ar radd o awdurdod, ac arferai eistedd yn y gadair freichiau o dan y pulpud. Ni chymerai ran gyhoeddus ond anfynych iawn. Yr ydoedd, yr un pryd, yn ddi-argyhoedd fel dyn, ac yn ffyddlon fel proffeswr crefydd a blaenor, gan ddwyn sel dros yr achos a chael ei barchu gan y byd. Canfuwyd ef yn farw yn ei gerbyd wrth fyned adref o'r capel ar bnawn Sul.

Gorffennaf 26, 1873, bu farw William Williams y pregethwr yn 83 oed. Dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr yn 1819, a chyda'r Methodistiaid yn 1826. Dyma sylw Llechidon arno fel pregethwr: "Byddai ei bregethau bob amser yn drefnus, cryno ac egwyddorol; a thraddodai hwynt gyda dawn rhwydd a naturiol." (Drysorfa, 1883, t. 417.) Dywed Mr. William Williams y y Groeslon, Waenfawr, a oedd yn dra chydnabyddus ag ef, ei fod, er yn eithaf rhwydd, eto o dymer oeraidd fel llefarwr cyhoeddus. Dilynai yr arfer o fyned ar deithiau pre-