Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gethwrol drwy y gwahanol siroedd. Yr ydoedd wedi ysgrifennu lliaws o bregethau ar y dalennau cydrwymedig â'i Destament bychan. Rhoddir yr amlinelliad gyda nifer o sylwadau dan bob pen ynghyda chymwysiadau. Lleolir pennau'r bregeth a'r gwahanol sylwadau a chymwysiadau bob amser mewn trefn naturiol, ac mae'r geiriad yn ddieithriad yn ystwyth a chlir. Ni welir yma unrhyw sylw disglair; ond y mae'r cwbl yn briodol, yn chwaethus, yn naturiol, a rhed drwy'r pregethau i gyd allu dadelfennol amlwg. Dywed Mr. Francis Roberts mai "gwr llym a bygythiol iawn ydoedd yn ei holl anerchiadau," ac mai "anfynych iawn y deuai'r Efengyl fel hyfrydlais oddiwrtho." Tebyg mai dyna'i ddawn naturiol. Priododd Betsan Williams Tŷ capel, a chadwai siop gerllaw y post. Wrth fod y tŷ yn ymyl y ffordd fawr a'r siop hefyd yn agored, fe glywid ar dro gryn ymdrafod rhyngddo ef a Betsan, sef mwy nag oedd yn gwbl weddus yn nhŷ pregethwr. Elai'r ymdrafod ol a blaen yn gyndyn ymgecru; ac eid o ymdaeru i'r nesaf peth at ymdaro, gan y teflid ambell waith y peth agosaf at law gan y naill at y llall. Wrth fod dull William Williams yn naturiol yn llym a bygythiol," dedwydd gyfarfyddiad fuasai dull mwyn a meddal—lais yn Betsan; ond nid dyna'r digwydd y tro yma. Aeth y si allan am y mynych ymgeintach; a bu raid atal William Williams oddiwrth bregethu flynyddoedd cyn y diwedd, yn gwbl o ddiffyg dedwydd fantoli ar garreg yr aelwyd.

Tua'r flwyddyn 1874 y daeth John Lloyd Jones, mab hynaf John Jones Talsarn, yma o'r Baladeulyn, a galwyd ef yn flaenor. Ymroes i waith yma am beth amser; ond pan awd i son am atgyweirio'r capel, ni chytunai â chymaint traul, a llaesodd ei ddwylo. Yn fuan wedi hynny fe ddechreuodd lesghau mewn corff a meddwl, ac ni allasai ddilyn y gwasanaeth cyhoeddus bellach. Bu farw Mawrth 12, 1893. (Edrycher Baladeulyn). Oddeutu'r un amser y daeth William Williams (Glynafon a Sardis) Hendai yma o'r Waenfawr. Yr ydoedd yntau, fel John Lloyd Jones, yn wr o dalent naturiol tuhwnt i gyffredin. Yr ydoedd y naill a'r llall yn gyforiog o ddawn mewn gweddi gyhoeddus. Fe ddanghosai William Williams barodrwydd i waith, a bu mewn amryw swyddi yn yr eglwys. Dyna fu ei hanes ar hyd ei oes hyd nes y collodd ei fantoliad cywir, ac yr ymollyngodd gyda'r brofedigaeth i ormodedd gyda'r diodydd meddwol.