Mawrth 19, 1876, y bu farw Ellis Griffith Cefnywerthyd, yn 88 oed, ac yn un o'r tri blaenor cyntaf a alwyd yn ffurfiol i'r swydd. Yr ydoedd efe'n wr o gryn awdurdod ac urddas dull. Sylw Mr. R. R. Jones arno ydyw ei fod yn wr pwyllog a grymus uwchlaw'r cyffredin, ac y medrai gyrraedd ymhell a tharo'n drwm." Bu Mr. William Williams y Groeslon, Waenfawr, yn y Bontnewydd hyd yn ddeg arhugain oed, a dywed ef fod Ellis Griffith yn siaradwr cryf a goleu, gyda dawn rhwydd; ac mai efe yn ddiamheuol oedd y dyn galluocaf yn yr eglwys. A gellir chwanegu yma yr hyn a ddywed Mr. Williams am Griffith, mab Ellis Griffith, sef ei fod yn alluocach dyn hyd yn oed na'i frawd John, y pregethwr, a phan y byddai'r ddau yn dadleu â'i gilydd ar ryw bwnc ond odid nad Griffith a ddeuai allan o'r ymdrechfa'n fuddugoliaethus. Ond ni chymerodd Griffith mo'r un cyfeiriad uchel a'i frawd. Mab i frawd Ellis Griffith oedd John Griffith, blaenor ym Moriah, a'r siaradwr llawnaf, fe ddichon, ar bynciau ymarferol crefydd ymhlith holl flaenoriaid Moriah o fewn hanner diweddaf y ganrif, oddieithr Henry Jonathan. Brawd iddo yntau yw Mr. Owen Griffith, y blaenor yn y Bontnewydd. Yr ydoedd Ellis Griffith yn fab i William Griffith, y gwr a flaenorai gyda'r achos ar y cychwyn, a Sioned William hynod; ac, fel y sylwyd, yr ydoedd yn dad i'r Parch. John Griffith cystal ag yn daid i'r Parch. W. Griffith (Disgwylfa), y naill a'r llall yn ddynion o feddwl cryf, gafaelgar.
Yn 1876 dewiswyd Thomas Jones y Cefn yn flaenor. Gwnawd ef yn gyhoeddwr yn 1896.
Yn 1877 atgyweiriwyd y capel ar draul o £1,213 11s. 5c. Yr oedd dyled flaenorol ar y lle o £100. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd y ddyled yn £855 4s. 11g. Traddodwyd y bregeth gyntaf ar ol yr atgyweirio nos Sadwrn, Gorffennaf 21, gan y gweinidog, y Parch. R. Humphreys, oddiar Actau xiv. 3. Ar ei ol, yr un noswaith, pregethodd y Parch. Lewis Williams, gweinidog yr Annibynwyr, oddiar Haggai ii. 3, 4.
Cynhaliwyd cyfarfod pregethu ynglyn â'r agoriad, Awst 10, 1877, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Griffith Roberts Carneddi, J. Wyndham Lewis a David Davies Abermaw. Yn 1877 ymgymerodd y gweinidog â gofal eglwys Penygraig. Yn 1879 y dechreuwyd cynnal dosbarthiadau canol