wythnos. Ymgymerai'r gweinidog â gofal dau ddosbarth, ac efrydid y Gymraeg yn y naill ohonynt a'r Saesneg yn y llall.
Yn 1882 daeth John Davies yma o'r Betws Garmon a galwyd ef yn flaenor.
Bu farw Thomas Roberts, Mai 24, 1888, yn 77 oed, ac yn flaenor ers 23 blynedd. Dywedir iddo fyned i'r chwarel yn 8 oed, ac iddo fod yn gweithio yn Llanberis hyd o fewn ychydig fisoedd i'r diwedd. Arhosodd yn y seiat gyda phregeth i Owen Thomas; ond pan awd ato i ymddiddan ni allai ddweyd gair. Awgrymodd y pregethwr adael heibio ei holi hyd y seiat ddilynol. Bu'n cadw'r tŷ capel am 12 mlynedd. Gwr o gorff heinif, o ysbryd cynes, siriol ei ddull, parod i bob gwaith da. Fe debygir ei fod yn wr a arferai weddi: gwelid ef ar foreuau Sul ymhlith y coed o flaen y tŷ a chesglid mai mewn myfyrdod a gweddi y byddai. Yr ydoedd wedi ei fantoli yn eithaf dedwydd, heb fod o faintioli i dynnu sylw, ac yn un yr oedd ei le yn wag ar ei ol, er nad oedd arno eisieu rhyw le mawr iddo'i hun.
Yn 1889 daeth Robert Jones Dinas yma o'r Capel Uchaf a galwyd ef yn flaenor. Yn 1896 fe'i penodwyd yn drysorydd yr eglwys.
Mai 31, 1890, anrhegwyd y gweinidog â'r Encyclopædia Britannica, yn 25 cyfrol, fel cydnabyddiaeth o'i lafur yn y lle am dros 18 mlynedd.
Hydref, 1890, daeth R. B. Ellis yma o Disgwylfa a galwyd ef yn flaenor. Yn niwedd 1891 fe ddilynodd Griffith Roberts yn y swydd o ysgrifennydd. Gan i Griffith Roberts oroesi cyfnod yr hanes hwn, gan gyrraedd ei 93 oed, yn wr heinif, byw, agos hyd y diwedd, ni sylwir arno ef yn arbennig, ymhellach nag i nodi iddo roi hir wasanaeth medrus a manwl i'r eglwys fel ysgrifennydd am gyfnod maith. Nis gellir meddwl am y Bontnewydd ar wahan iddo ef, nac am yr eglwys, na'r gweinidog diweddar, y Parch. R. Humphreys. Y nhwy ill dau oedd y droell ddirgel a weithiau'r peiriant i gyd, hyd nes y cymerodd R. B. Ellis yr un lle.
Yn 1892 daeth J. W. Jones yma o Holloway, Llundain, a galwyd ef yn flaenor. Gorffennaf, 1893, daeth W. Hobley yma o Buckley.
Bu John Davies farw Mai 5, 1894, yn 86 oed, wedi bod yn flaenor yma am 12 mlynedd. Yr ydoedd ef yn wr o adnoddau,