Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chafodd gyfleustra yn Betws Garmon, fel arweinydd yr achos yno, i'w dwyn allan i'r eithaf. Yr oedd arddull y seiat yma yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ef wedi ymarfer âg ef o'r blaen, ac nis gallai ddygymod yn rhyw dda iawn â'r gwahaniaeth. Er hynny, fe ddilynai y moddion yn ffyddlon. Pan lefarai yn achlysurol fe'i ceid yn gyflawn o fater, ac ar brydiau yn darawiadol. (Edrycher Salem, Betws Garmon.)

Mawrth 25, 1895, fe brynnwyd yr hawl i'r tir gyda 302 llath ysgwar yn ychwanegol, am y swm o £150. Adeiladwyd yr ysgoldy yng nghefn y capel ynghyda chegin ac ystafell fechan. Yr oedd math ar ysgoldy fechan o'r blaen wedi ei chau i mewn ar lawr y capel o dan yr oriel wrth y drysau. Cymerwyd hon i fewn at lawr y capel, a rhowd 8 o seti yn ei lle. Yr oedd traul y gwaith yma i gyd yn £600. Adeiladwyd tŷ gweinidog yn 1896 ar draul o £600. Gwnawd rhyw gymaint o atgyweirio o flaen y capel yn bennaf. Y draul i gyd,—£1,500.

Gorffennaf 21, 1896, bu J. W. Jones farw yn 57 oed, wedi bod yn flaenor yma am 4 blynedd. Gwr rhadlon â gwedd agored, siriol arno: hawdd ydoedd dynesu ato a bod yn rhydd. gydag ef. Ni fuasid yn meddwl ar y cyntaf wrth ei ddull llawen,—er heb ddim cellweirus na thrystiog ynddo—ei fod yn ddyn mor ddwys grefyddol. Wrth ymgynefino ychydig âg ef fe deimlid fod y plentyn yn aros ynddo o hyd, y plentyn heb. ei ddifetha. Nid oedd nemor ddyfnder ynddo oddieithr y dyfnder hwnnw sy'n briodol i blentyn. Fe dreuliodd fwy na hanner ei oes yn Llundain, ond arhosodd y plentyn ynddo: a'r plentyn ynddo y darfu i'r Arglwydd Iesu ei gymeryd ato a'i fendithio. Daeth dan ddylanwad diwygiad 1859 ym Moriah. Tebyg mai'r diwygiad hwnnw â'i lluniodd. Fe gymerai ei grefydd y ffurf o deimlad yn hytrach na meddwl; ond fe'i hachubwyd ef rhag peryglon cynhyrfiadau teimlad drwy roi cyfeiriad ymarferol i'w grefydd. Yn brentis yn Llundain fe safodd yn wyneb gwawdiaith bechgyn eraill, er iddo deimlo'r brofedigaeth yn un danllyd. Casglodd gryn gyfoeth; ond gwnaeth ef a'i wraig gyntaf, merch y Parch. Ddafydd Jones Treborth, ddefnydd da ohono mewn cysylltiad â'r achos yn Holloway, a thrwy gadw tŷ agored i bregethwyr a bechgyn ieuainc yr eglwys. Diau iddo gael ganddi hi gynorthwy gwerthfawr yn ffurfiad ei gymeriad, ac mewn arweiniad iddo yn y ffordd o ddefnydd-