Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ioldeb crefyddol. Fe dorrai'r defnyddioldeb hwnnw allan nid yn unig mewn ffyddlondeb yn y capel a lletygarwch yn ei gartref, ond hefyd mewn ymweliadau â thlodion a chleifion ac esgeuluswyr. Merch John Lloyd Jones, nith ei wraig gyntaf, oedd ei ail wraig. Yr oedd ei ddefnyddioldeb crefyddol ar wedd fwy cyfyngedig yma nag yn Llundain, er yn dwyn i fesur yr un ddelw. Dioddefai oddiwrth anhwyldeb corff yn ystod ei flynyddoedd diweddaf. (Drysorfa, 1896, t. 475. Llusern, 1896, Awst.)

Chwefror 25, 1896, bu farw Eliseus Evans Pont cyrnol, yn 94 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 46 blynedd. Gwr tal, lled deneu, tawel a dymunol ei ffordd, ac à golwg sirioldawel arno. Yr oedd yn ei ddull yn gyhoeddus yn gymeradwy gan bawb. Nid byrr yn unig a fyddai ond cryno cystal a hynny: fe grynhoai rywbeth gwerth ei glywed i'r ysbaid ferr. Dau funud ar yr eithaf fyddai hyd ei gyfarchiad yn y seiat: yn yr ysbaid hwnnw dodai ynghyd ddwy neu dair o wersi, yn aml wedi eu tynnu oddiwrth y materion a fu yn y seiat neu bregethau y Sul. Fe orweddai'r gwersi yn deg ar y pwnc; ac fe alwai'r gweinidog ar Eliseus Evans yn dra mynych i roi diweddglo i'r ymddiddan. Fe siaradai John Davies am o ddeng munud i chwarter awr a John Roberts am o wyth i ddeng munud; ac am hynny yn achlysurol yn unig y gelwid arnynt hwy; ond Eliseus Evans y rhan amlaf. Ei weddi yr un modd fyddai'n gryno a gafaelgar. Holi o'r Hyfforddwr a wnae, a Charles ydoedd ei safon. Megys mai Charles oedd ei ddiwinydd, John Elias oedd ei bregethwr. Adroddai am John Elias yn sasiwn y Bala yn codi i fyny i bregethu, gyda writ yn ei logell, fel y dywedai ef, ac yn rhoi allan i ganu, "O distewch gynddeiriog donnau, tra fwy'n gwrando llais y nef," gydag effaith wefreiddiol. Morgan Howels a safai yn uchel iawn yn ei olwg; ac adroddai am Dafydd Elias, brawd John Elias, yn dweyd am dano, fod angel yn myned drwy'r wlad i bregethu. Dirodres yn ei ffordd oedd Eliseus Evans, dilwgr yn ei gwmni, diwenwyn tuag at bawb, ac o ddylanwad tawel a thyner a thlws. Efe, ar ol Owen Williams, fyddai'n cyhoeddi'r moddion.

Cynhaliwyd bazaar yn ystod Medi 9—11, 1897, tuag at ddi-ddyledu'r capel. Swm yr elw, ar ol talu pob treuliau, £400.