Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Talwyd £450 o'r ddyled yn ystod y flwyddyn, gan adael £880 19s. 1lc. yng ngweddill o ddyled.

Daeth O. Roberts yma o sir Ddinbych yn ystod 1898, pan ar ei brawf fel pregethwr, ond heb adael ei Gyfarfod Misol. Yn y man fe ymadawodd at yr Annibynwyr. Yr un flwyddyn fe symudodd Mr. Owen Jones o'r dref i Glanbeuno, ond heb symud mo'i aelodaeth o Foriah. Daw i'r ysgol yma, ac i'r moddion eraill ar y Sul gan amlaf. Bu Robert Lewis y pre- gethwr yma am ysbaid a bu o ddefnydd gyda'r canu. (Edrycher Engedi.)

Bu John Roberts y Felin farw yn 1900 yn 89 oed, wedi bod yn flaenor yma am 32 mlynedd, ac yng Nghaeathro cyn hynny am 9 mlynedd. Ganwyd ef yn y Felin bach, Caeathro; ac yno y daeth at grefydd. Bu'n cadw ysgol yng Nghwmyglo am ysbaid, ac yng Nghaeathro yn yr hen gapel. Dilynodd Owen Williams fel trysorydd yr eglwys, a llanwodd y swydd hyd 1892, pryd y dilynwyd yntau gan J. W. Jones. Yn 1837 yr oedd swper yn y Niwbro, Bontnewydd, er budd gwr y tŷ. Yr oedd cyfarfod dirwestol yng Nghaeathro ar y pryd, ond aeth John Roberts i'r Niwbro. Talodd ei hanner coron i lawr, ac eisteddodd o flaen y wledd a'r cwrw ger ei fron. Ar fin ei yfed fe deimlai gynnwrf mewnol, a rhyw lais yn dweyd wrtho na ddylai fod yno, ond yn hytrach yn y cyfarfod yng Nghaeathro. Ar hynny, rhoes y cwrw oedd yn ei law i lawr ar y bwrdd heb ei brofi, ac aeth ymaith tua Chaeathro. Fel y cyrhaeddai yno, yr oedd y bobl yn dod allan o'r cyfarfod. Fe aeth John Roberts, pa ddelw bynnag, ymlaen at yr ysgrifennydd, Humphrey Llwyd, a rhoes ei enw fel llwyrymwrthodwr. Gofynnai yntau am ba hyd. "Hyd nes y dof atoch i dynnu fy enw i ffwrdd; ac mi ddof atoch i ddweyd pa bryd y byddaf am yfed y tro nesaf." Parhaodd yn ddirwestwr i'r diwedd. Ar ol arwyddnodi'r ardystiad daeth at grefydd. Bu'n ysgrifennydd y Cyfarfod Ysgolion am 15 mlynedd, fel olynydd Humphrey Llwyd Prysgol. Fe gafodd Mr. Francis Roberts y ffeithiau a nodir yma gan John Roberts ei hun. Yn y coffa am dano yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr fe wnawd y sylw yma: "Gwr cadarn, pwyllog, clir ei syniadau, coeth ei ymadrodd. Bu farw fel tywysog." Yr ydoedd yng nghyflawnder ei amser yn wr gweddol dal, pum troedfedd a deng mod- fedd feallai, ac o gorff cymesur a llawn a chryf. Yn ei flyn-