yddoedd olaf yr ydoedd wedi ymgrebachu peth, ac yn fodfedd neu ragor yn llai o daldra. Hyd ei ddiwedd agos fe ddeuai at bob pryd gydag awch, er mai bwytäwr eithaf cymedrol ydoedd. Chwarter canrif cyn y diwedd yr oedd golwg dyn cryfach na chyffredin arno, a rhywbeth yn wrol yn ei ddull. Fe deimlid hynny yn neilltuol ynddo, y pryd hwnnw, fel siaradwr cyhoeddus. Edrychai'n ddyn cryf, gwrol, cyn codi ar ei draed; ond wrth siarad fe'i teimlid yn gryfach a gwrolach dyn na'i olwg. Yr oedd y llais yn gryf a llawn, a rhyw droad gwrol ynddo; a llefarai yn rhydd a rhwydd ac awdurdodol, ac ar ambell gyffyrddiad gyda rhywbeth braidd yn orthrechol ynddo. Heblaw dawn ymadrodd cryf, meddai hefyd ar gryfder meddwl, digon i sicrhau trefn a dosbarth ar ei faterion, a chyflead eglur, argyhoeddiadol ar bob pwnc. Ac yr oedd yno nid yn unig ymresymiad argyhoeddiadol, ond argyhoeddiad yn ei feddwl ef ei hun; a rhwng y meddwl argyhoeddiadol a'r teimlad argyhoeddiadol, a grym y traddodiad, a grym y bersonoliaeth, yr oedd dylanwad neilltuol iddo fel siaradwr. Ar ol ei wrando'n siarad ar ddirwest un tro, fe ddywedodd John Owen Ty'n Llwyn wrtho mai pregethwr a ddylasai fod. Mae'n ddiau y meddai ar gyfuniad lled helaeth o'r cymhwysterau angenrheidiol ar lefarwr cyhoeddus poblogaidd. Diwylliodd ei feddwl i fesur da: yr oedd ei iaith yn gywir a gweddol helaeth o ran geiriad; a chasglodd ynghyd gryn wybodaeth am bethau cyffredinol, ysgrythyrol a diwinyddol; ac ni cheid fyth ddim anghoethder ynddo o ran iaith na dull na mater nac ysbryd. Yr oedd yn wr llednais o ysbryd ac ymarweddiad. Ni ddeuai'r awdurdod a ymddanghosai yn ei ddull yn gyhoeddus i'w ddull yn gyfrinachol, oddieithr yn awr ac yn y man yn rhyw dro a roddai i'w lais. Yn ei holl ymddygiad cyffredin yr oedd yn dawel a thyner a llednais. Ymddanghosai ynddo radd o anghysondeb dull ac ymddygiad: y dyn gwrol cyhoeddus a elai'n ddyn tyner yn gyfrinachol. Tywynnai'r tynerwch hwn yn ei lygaid lledfawrion, lledleision, ond cwbl loewon. Gallesid fod wedi disgwyl oddiwrth ei ddull gwrol fel llefarwr, iddo gymeryd arweiniad mwy amlwg a phendant gyda'r achos. Fe ymddanghosai yn hytrach yn cilio'n ol oddiwrth hynny, gan adael yr awenau yn nwylo eraill. Yr ydoedd braidd yn hawdd ei dramgwyddo, er na choleddai ddig. Fe'i gwelwyd ef ar dro wrth holi'r ysgol, a phan atebid ef yn gwta,
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/154
Gwedd