Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhoi pen yn y fan ar yr holi. Areithiwr ydoedd, gan hynny, yn fwy nac arweinydd. O ran ei fuchedd yr oedd yn gyson a glan; ac o ran cymeradwyaeth yr ardal fe safai yn uchel gyda phawb. Fel cynrychiolydd y gymdeithasfa fe alwyd arno un tro yn y Wyddgrug i ddibennu'r cyfarfod drwy weddi; a dywedai'r Parch. Robert Owen Tydraw ar y pryd fod y weddi honno yn ei ddangos yn ddyn cynefin â'r ffordd at Orsedd Gras. Gyda phob cymhwyster i fod yn wr amlwg yn y Cyfarfod Misol, ni ddaeth i nemor ddim sylw yno; a chyda phob cyfaddaster mewn dawn gyhoeddus ni eangodd nemor yn hynny ar ei gylch cynefin yn yr ardal. Tebyg fod ei orchwyl fel melinydd yn ei gadw adref; a dichon na roes mo'i fryd ar fod yn gyhoeddus iawn; er y gallesid meddwl am dano yn ei nawnddydd mai dyn ydoedd fuasai wrth ei fodd mewn cylchoedd eang a chyhoeddus. Er yr awdurdod dull fel llefarwr cyhoeddus, yr oedd lledneisrwydd yn rhoi ei ffrwyn ym mhen pob meddwl uchelgeisiol. Fe lanwodd nid yn unig yn ddibrofedigaeth i bawb, ond hyd yn oed gyda chymeradwyaeth gyffredinol, y cylch y gwelodd yn iawn gyfyngu ei hunan iddo. Rhoe ryw gymaint o gynorthwy i'w fab ar y tir hyd y diwedd. A phan ydoedd gyda rhyw fymryn o lafur neu gilydd, fe deimlodd fod y wys oddiuchod wedi ei gyrraedd. Aeth i fewn i'r tŷ, a dywedodd wrth ei ferch ynghyfraith,—"Yr wyf yn cael fy ngalw adref." Yna fe ddiolchodd iddi mewn modd tyner am ei charedigrwydd iddo a'i gofal am dano, ac yn y fan ehedodd ei ysbryd ymaith i'r tawelwch claer ger gwydd Duw. A gwnaeth y sôn am ddull ei ymadawiad argraff neilltuol iawn ar y pryd ar bawb yn y gymdogaeth.

Bu cyfarfod pregethu y Pasc yn cael ei gynnal cyd-rhwng yma a Brynrodyn a Rhostryfan am rai blynyddoedd. Yr ydoedd hynny yn amser John Jones Talsarn, gan y bu efe yn gwasanaethu yn Rhostryfan yn y cyfarfod, ar ol dod yno o Dalsarn gyda throed dolurus gan losgiad, a mynnodd ddod yma drachefn. Wedi i'r undeb hwnnw beidio buwyd heb y cyfarfod yma ysbaid rhai blynyddoedd, yna fe'i cychwynnwyd drachefn. Buwyd hebddo wedi hynny ar ol 1875.

Bu rai o'r Bontnewydd yn cynorthwyo gyda'r gangen-ysgol yn Glanrafon o bryd i bryd, er mai cangen o ysgol Waenfawr ydoedd honno yn briodol. Cangen o ysgol Moriah, hefyd, ydoedd Isalun, er i eglwys Penygraig a darddodd ohoni fod