Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gangen o eglwys Bontnewydd. Bu adegau pan fyddid yn myned i chwilio am esgeuluswyr o'r ysgol ar foreuau Sul. Bu gweinidog yr eglwys hon yn hir yn arholwr y Cyfarfod Ysgolion. Dyma adroddiad ymwelwyr 1885: "Cynhelir yr ysgol hon yn y bore. Ar gyfer hwyrfrydigrwydd y gynulleidfa yr oeddid wedi arafu y cloc, fel na chafodd yr ysgol ei dechre yn brydlon. Yr oedd hyn yn taro yn chwithig ar ol bod yn ysgol Penygraig y Saboth blaenorol. Wedi rhoddi'r ysgol mewn trefn yr oedd golwg hynod dda arni. Yr oedd ystafell i'r plant lleiaf ar wahan. Dosbarthiadau'r plant yn rhy luosog, er fod y plant yn darllen yn dda. Llawer o rai mewn oed mewn cymhariaeth i rif yr ysgol. Fe fuasid yn disgwyl i'r ysgol fod yn lluosocach. Yn y dosbarthiadau mewn oed, ar y mwyaf o sylw yn cael ei roi i'r darllen ei hun. Yn yr holl ddosbarthiadau, gofynnai bob un yn ei dro ei gwestiwn, ac yna yr athro ar eu hol. Hyn yn fwy priodol i fechgyn o 10 i 15 oed nag i wyr wedi cyrraedd cyflawn synnwyr. Maent yn ateb yn y papur amgaëedig nad oes ganddynt ddosbarth Beiblaidd; ond y maent newydd sefydlu un dan ofal y Parch. R. Humphreys. Henry Edwards, John Jones."

John Pritchard Lôn groes, Brynhyfryd wedi hynny, oedd y cyntaf a benodwyd i arwain y canu. Canwr o rywogaeth gyffredin, ond ffyddlon yn ol ei allu. Bu farw yn 1855 yn 44 oed. Yn aml byddai Jane Roberts Tŷ capel yn arwain ganol wythnos yn absen eraill. Pan na byddai John Pritchard Lôn groes yn gallu cofio'r dôn f'ei tarewid i'r dim mewn dull eithaf digynnwrf gan John Pritchard y crydd, pobydd wedi hynny. Byddai John Pritchard y crydd yn yslyrio yn hir ac yn hamddenol. Ar ol John Pritchard Lôn groes fe ddewiswyd Robert. Roberts y gof yn arweinydd. Yr oedd ef yn ddechreuwr da ac yn meddu ar lais peraidd, ebe Mr. R. R. Jones, ond fod y gynulleidfa yn hwyrfrydig i ganu. Yr oedd Owen Jones Ty cnap yn faswr dihafal y pryd hwnnw, ei lais yn llanw'r holl gornelau. Bu William Owen Prysgol yn dod yma rai prydiau am 5 ar y gloch pnawn Sul, a phan na byddai yma bregeth yn treulio'r hwyr i gyd gyda'r canu. Bu Hugh Ellis, a oedd yn gweithio yn Llanberis, yn cynnal cyfarfodydd yma ar nos Sadyrnau i ddysgu'r Solffa. Byddai plant a phobl ieuainc of gylch go fawr, o Saron i Gaeathro, yn dod i'r cyfarfodydd hyn. Yn 1869 dewiswyd John Williams yn arweinydd. Cyd-