Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nabyddwyd ei lafur drwy ei anrhegu â'i lun, Gorffennaf 14, 1882. Yn 1884 trefnwyd i gael harmonium i gynorthwyo'r canu. Trwy ymroad a diwydrwydd yr arweinydd, yn cael ei gynorthwyo gan amryw gerddorion da yn y gynulleidfa, fe wellhäodd y canu gryn lawer.

Bu yma gyfarfod llenyddol, Mehefin 29, 1861, gyda'r Parch. Dafydd Morris yn feirniad. Yn 1868 y cafwyd y cyfarfod nesaf. Cynhaliwyd y cyfarfod yn ddilynol i hynny ar y Groglith. Bu John Williams yr arweinydd canu a'r ddau frawd, Owen a W. O. Pritchard yn amlwg gyda'r cyfarfod. hwn yn ei ddechreuad. Ffrwyth y cyfarfod llenyddol oedd sefydlu'r llyfrgell, ac yr oedd hynny wedi ei wneud cyn diwedd y ganrif.

Sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol yn 1896. Y gweinidog ydoedd y llywydd parhaus. R. B. Ellis, fel y dywedid ar y pryd, oedd wrth wraidd yr ysgogiad hwn.

Sefydlwyd Cyfrinfa Beuno dan nawdd Temlyddiaeth Dda yn yr ardal yn 1872. Yr oedd rhif yr aelodau erbyn Tachwedd, 1873, yn 126. Yn 1873 fe sefydlwyd Cyfrinfa'r Plant. Erbyn Tachwedd yr oedd y rhif yn 88. Ymhlith eraill, fe siaredid yn ddawnus yn y Beuno gan John Roberts y Felin, R. R. Jones ac Eos Beuno (Annibynwr). Parhaodd cyfrinfa Beuno hyd 1892.

Sefydlodd Hugh Ellis y Gobeithlu yma. Gyda dyfodiad R. B. Ellis yma daeth llewyrch newydd arno.

Sefydlwyd Cymdeithas Grefyddol y Bobl Ieuainc, Ionawr 8, 1897.

Yn ystod 1895—9 fe dalwyd £700 o'r ddyled. Fe fu adeg yma pan fyddai gorfoledd yn rhan o'r gwasanaeth, er fod hynny wedi hen gilio. Enwir gan Mr. Francis Roberts y rhai fu'n gorfoleddu a phorthi y gwasanaeth, sef Nani Hughes Pentreucha, Marged Thomas Tŷ calch, Pegi Pritchard Pentreucha, Jane Roberts Tŷ capel. Bu'r rhai hyn, hefyd, yn cadw cyfarfod gweddi yn eu plith eu hunain, ac yn cynnal y gwasanaeth teuluaidd yn eu tai eu hunain. Y ddeuddyn cyntaf a briodwyd yma oedd Griffith Jones a Mary Davies, merch y Parch. David Davies.

Un peth hynod yma, yn yr hyn, debygir, yr oedd yr eglwys yn hynotach na neb eglwys yn Arfon, ydoedd oedran mawr ei blaenoriaid. Yr oedd lliaws ohonynt wedi addfedu gyda'i