Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd ym mlynyddoedd olaf y ganrif, ac yn hongian megys wrth odreu'r pulpud fel afalau melynion. Ychydig dros bum mlynedd oedd rhwng Eliseus Evans a chyrraedd y can mlynedd. Ni chelai efe ei obaith am weled y bennod honno, y dywed y proffwyd am dani na bydd yr hwn a'i gwel yn nyddiau'r Messiah ond bachgen. Ni welodd efe mo'i bennod y tu yma i'r llen ond y tu arall. Yr oedd Eliseus Evans a John Roberts y Felin yn ddiau yn myned yn fwy ieuangaidd wrth heneiddio, sef yr oeddynt yn dilyn rheol angylion Swedenborg ac yn myned yn iau po hynaf y byddent. Aml waith y mynegodd John Roberts yn ystod y flwyddyn neu ddwy olaf ei fod ef bellach ar yr erchwyn. Griffith Roberts yn olaf o'r gwŷr hynafol hynny a gwympodd dros erchwyn amser i'r Mawr Ddir— gelwch. Eithr arddull synnwyr y cnawd yw "cwympo dros yr erchwyn": nid cwympo y maent hwy mewn gwirionedd, ond rhyw gilio'n ol i'w gwreiddyn a'u ffynnon, i darddu i'r lan yn Nuw drachefn ac i daflu allan eto,—nid ar unwaith wrth farw, ond yn yr atgyfodiad oddiwrth y meirw, sef yng nghyflawnder yr amser,—flodau godidowgrwydd awen nefol, a pheraidd arogl y fro honno y mae'r Brawd Hynaf yn Frenin ynddi. a godre ei wisg yn ei llenwi, ac yn peri fod y wlad yn llawn o gyfoeth.

Peth arall yn yr hyn yr oedd yr eglwys lawn cyn hynoted ynddo ag yn y peth blaenorol, oedd fod y nifer mawr o'i blaenoriaid wedi dod yma o eglwysi eraill lle'r oeddynt yn flaenoriaid cyn dod yma. Ni bu'r eglwys yn fagwrfa blaenoriaid ond i fesur bychan, a rhaid cyfrif hynny i'w herbyn. Ond os na fu'n fagwrfa blaenoriaid, fe fu'n dderbynfa blaenoriaid, a'r rhai hynny yn fynych yn wir flaenoriaid. Trawsblannwyd. hwy yma, ac ni phrofodd mo'r oruchwyliaeth lem yn niweidiol i'r nifer mawr ohonynt, ond yn hytrach yn lles, a bendithiwyd yr eglwys drwyddynt.

Rhif yr eglwys yn 1900, 203.