Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAEATHRO.[1]

YSTYR yr enw, fe debygir, yw Cae-adraw, sef cae yn ymestyn draw, a elwid felly oherwydd ei ffurf naillochrog. Y cae. ydoedd hwnnw y mae'r capel arno a'r tai rhwng y capel a'r groesffordd.

Y mae'r pentre ryw filltir a chwarter o Gaernarvon, rhan ohono ar ffordd Beddgelert a rhan ar y ffordd rhwng yma a'r Bontnewydd.

Dywed Cathrine Jones fod ysgol Sul yn cael ei chynnal yma yn 1797 mewn ffermdy o'r enw Penrhos, a safai yr ochr arall i'r ffordd oddiwrth y Penrhos presennol; ac y deuai Morris Griffith, ysgolfeistr yn Llanrug ac eglwyswr, yma i'w chadw. Hen lanc duwiol, fe ddywedir, oedd Morris Griffith. Ei weddi yn yr ysgol ddyddiol a barhae weithiau am awr gyfan, rhan ohoni yn y Gymraeg a'r rhan arall yn y Saesneg. Dywedir hyn ar dystiolaeth un fu gydag ef yn yr ysgol yn Llanllechid. Ni eglurir a oedd y weddi yn yr ysgol Sul o'r un hyd. Nid anhebyg nad ydoedd. Fe ddywedir y deuai John Gibson hefyd i ysgol Penrhos, sef ydoedd ef un o Fethodistiaid cyntaf Caernarvon, a'i breswylfod yn Henwalia. Byddai Richard Jones Treuan yn fachgen 11 oed yn dechre canu yn yr ysgol honno.

Fe symudodd yr ysgol o Benrhos i'r Wern, plasdy henafol, y tybir fod ei furiau o'r un oedran a chastell Caernarvon. Ni wyddis mo'r amser y symudwyd. Bu'r ysgol yma am rai blynyddoedd. Cynhelid dosbarth ym mhob ystafell, ac ae rhywun o amgylch i hel llafur. Gwrandewid ar lafur pob un, sef pennod neu Salm, mewn stafell o'r neilltu. Arferid adrodd. pennod ar ddechreu'r gwasanaeth. Fe ddysgodd lliaws ddarllen yma, ac yn eu plith un hen wr dros ei drigain a ddaeth yn ddarllenwr medrus. Ni chynhelid dim moddion cyson yn y Wern ar y Sul, heblaw'r ysgol yn unig. Enwir fel rhai a fu o wasanaeth neilltuol yma: John Hughes Ty'n twll, Waenfawr;

  1. Ysgrif gan Cathrine Jones (Lodge), yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1884. Nodiadau gan y swyddogion ar 1884-98. Y llyfr casgl eglwys, 1826-39. Cuttings o bapurau newydd yn dwyn perthynas â chofadail W. Owen Prysgol, drwy law Mr. T. Gwynedd Roberts.