ei frawd Griffith Hughes Tyddyn wiscin; William Griffith Penycefn a Griffith Evans Dolgynfydd. Un o flaenoriaid y Waenfawr oedd John Hughes. Dengys tocyn aelodaeth yng nghadw ym Moriah yn ei lawysgrifen ef ei fod yn arfer â'r gwaith o ysgrifennu, a bod ganddo law gelfydd, ysgafn. (Edrycher y Waenfawr.) Ae Griffith Evans ac amryw eraill i'r bregeth fore Sul yn y Bontnewydd, i'r Wern i'r ysgol y prynhawn, ac yn yr hwyr i Foriah.
Mae gerbron lyfr cofnodion Cyfarfod Ysgolion y dosbarth dros ystod Hydref 17, 1819-Ionawr 28, 1821. Yn chwech- wythnosol y cynhelid y cyfarfod. Nodir rhif yr aelodau a rhif y penodau. Dyma'r ffigyrau ar gyfer y Wern: 62, 63; 61, 59; 68, 124; 71, 112; 70, 71; 76, 112; 69, 65; 76, 84; (dim cyfrif); 76, 98; 77, 101, 105 (ni eglurir ystyr y trydydd rhif: adnodau feallai); 73, 83. Sef y cyfanswm am y chwech wythnos. Fe geid pregeth ar dro yn y Wern, ac hefyd yn Nhŷ'n lon, yn ymyl llidiart Tyddyn wiscin. Ar ol pregeth yn Nhŷ'n lon gan John Humphreys Caernarvon, fe alwyd seiat ar ol, ac arosodd Humphrey Llwyd Prysgol a Catherine Jones Glangwna bach am y tro cyntaf. I Lanrug yr ae Humphrey Llwyd. i wrando pregeth ac i Lônglai (cychwyn yr achos yn Nazareth) i'r ysgol.
Cynhelid cyfarfod gweddi misol ar ganol wythnos yn y Wern, ac ar dro mewn tai eraill heblaw hynny, sef Prysgol, Dolgynfydd, Tyrpeg, Prysgol isaf, Glangwna bach. Richard Jones (Treuan) Prysgol isaf fyddai'n dechreu'r canu yn y cyfarfodydd hyn, ac am flynyddoedd wedyn yn y capel. Yr oedd Henry Thomas, gwr y bu ganddo lawer i'w wneud â chychwyn yr achos yn ardal Beddgelert, wedi symud i'r Waenfawr, ac oddiyno i gadw Tyrpeg Glangwna, sef y tyrpeg ar y groesffordd wrth y pentref yma. Yr oedd hynny ymhell cyn diwygiad Beddgelert. Symudodd oddiyma i dyrpeg Dolydd byrion ger Llanwnda. Er fod rhywbeth nodedig ynddo gyda chrefydd, fe'i difethid ar ysbeidiau yn ei gysylltiadau crefyddol gan bruddglwyfni, ac ni wyddis ddim am fesur ei ddefnyddioldeb yma.
Edrydd Edward William. yr hen flaenor o Dalsarn, hanesyn ar ol Griffith Roberts y meddyg esgyrn. Yr oedd cawr o ddyn, yn ymladdwr a heliwr, wedi ymuno â chrefydd yn Llanllyfni cyn torri allan ddiwygiad Beddgelert. Gwyddai