Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad ydoedd fel caseg eira yng ngwres yr haul yn toddi ymaith. yn weladwy i bob edrychydd. Nid yw ystadegau'r Cyfarfod Misol yn cerdded ymhellach nag 1853, ac nid oedd yma ddim. dyled erbyn hynny.

Dyma enwau'r blaenoriaid cyntaf: Griffith Evans Dolgynfydd, Humphrey Llwyd Prysgol, Richard Thomas Tyrpeg, John Daniel Garth, William Owen Hendai, Humphrey Owen Llety. Nid yw'n debyg, pa ddelw bynnag, fod y rhai hyn i gyd yn flaenoriaid o'r cychwyn cyntaf, neu ynte yr oedd syniad pobl Caeathro y pryd hwnnw yn eangfrydig iawn ymherthynas â'r flaenoriaeth. Canys ni byddai namyn un blaenor yn fynych mewn eglwys fechan ar ei chychwyniad yn y dyddiau boreuol hynny, ac yr oedd dau yn eithafnod y crebwyll y rhan amlaf. Deuai Thomas Evans o'r Longlai ac Edward Meredith o Gaernarvon i gynorthwyo gyda'r canu ac i roi gwersi yn y gelfyddyd. Y mae llyfr y casgl eglwys gerbron. Nid yw'r llyfr yn myned ymhellach yn ol nag 1826. Ni hysbysir pa bryd y ffurfiwyd eglwys yma, na pha bryd yr agorwyd y capel. Dichon. mai ysgoldy yn unig ydoedd ar y cychwyn; ac mai ymhen encyd o amser ar ol yr agoriad y cafwyd gan Rumsey Williams ymyryd ac arfer ei ddawn i bledio dros gael pregeth yma, ac mai gyda hynny y ffurfiwyd eglwys yn y lle. Y mae fod y llyfr eglwys yn dechre yn 1826 yn rhoi arlliw o reswm dros dybio hynny. Y mae'r dalennau cyntaf wedi colli o'r llyfr. Rhif yr eglwys yn 1827 ydyw 30. Gallasai fod casgl eglwys. cyn cael y llyfr hwn; ac y mae rhif yr aelodau braidd yn fawr i eglwys ar ei chychwyniad, mewn poblogaeth fechan, fel ag yr oedd yma y pryd hwnnw, a phan nad oedd ond y lleiafrif o'r gwrandawyr yn y rhan fwyaf o leoedd yn proffesu. Yn niffyg gwybodaeth well, gan hynny, fe roir 1825 i lawr fel amser cychwyn yr eglwys. Yn y pen arall i'r llyfr y mae cofnod casgl y plant, hwnnw hefyd yn dechre yn 1826. A oedd yn beth cyffredin mor gynnar a hynny fod casgl plant yn yr eglwysi? Hyd y gwyddis peth eithriadol ydoedd. Rhoi'r llun y dudalen gyntaf o'r casgl plant yn yr eglwys hon yn nechreu'r gyfrol; ond gan fod enwau'r plant yn cyrraedd i'r dudalen nesaf fe'u rhoir yn gyflawn yma ar ol enwau'r cyflawn aelodau. Er nad oes ond yr enwau diweddaf i lawr am 1826 yn rhestr yr aelodau, eto y maent wedi eu rhifnodi, a 26 yw'r rhifnod diweddaf. Ond dyma'r enwau ar gyfer 1827: John Williams,