Griffith Evans Dolgynfydd, Ann Evans eto, Richard Thomas Turnpike, Cathrine Thomas eto, John Daniel y Garth, Jane Daniel eto, Humphrey Lloyd Prysgol, Humphrey Owens Castellmai, Elizabeth Owens eto, William Griffith Penycefn, Elinor Griffith eto, Margaret Jones Tyddyn wisgin, William Jones Llangwnabach, Cathrine Jones eto, Richard Jones Prysgol isa, Cathrine Jones eto, David Williams Efail bach, Ann Jones Tyddyn wisgin, John Williams Prysgol, Ann Jones Castellmai, Ann Davies Prysgol, Jane Evans Tre Llanbeblig, Marget Williams, Elizabeth Jones Tre Llanbeblig, Margaret Prichard, John Williams Rerw, Jane Owens, Cathrine Williams, John Parry Rhyddallt. Y mae enw John Huxley ar ben y rhestr. Yna ysgrifennwyd John Williams ar ei ol. Dichon y bu John Huxley yn aelod yma am ysbaid cyn 1827. Ar yr ail fis y mae cyfraniad cyntaf John Williams, ac y mae hynny yn arwyddo mai dyna'r pryd y daeth yma, pan y cymerir hynny ynglyn â'r ffaith nad oedd ei enw ar y rhestr fel y gwnawd hi gyntaf. Y mae'n amlwg ar yr ysgrifen ei bod wedi ei llunio yn ddiweddarach na'r gweddill o'r enwau.
Y mae rhestr enwau'r plant yn y pen arall i'r llyfr, ac wedi ei hamseru, Chwefror 16. Gallesid tybio oddiwrth y llyfr nad oedd rhestr o flaen hon, ac y mae'r amseriad yn arwyddo'r un peth, gan y buasai yn debyg o ddechre yn Ionawr os oedd casgl plant yn flaenorol. Y mae rhestr y plant yn dibennu gyda diwedd 1828. Nid oes rhestr am 1827. Fe roir y ddwy restri yma yn gyflawn. Y rhan amlaf fe gollir yr achau wedi'r drydedd genhedlaeth yn ol. Bydd y rhestrau hyn yn foddion i'w diogelu yn ddiau, mewn rhai teuluoedd, am lawer cenhedlaeth, ac mewn cysylltiad â'r Cysegr. Rhestr 1826: Henry Owens, Jane Owens, Elizabeth Lloyd, Ellianor Lloyd, John Evans, Evan Evans, Margret Lloyd, Hannah Thomas, Jane Hughes, Margret Hughes, Griffith Hughes, John Hughes Castellmai, Elinor Hughes eto, Margret Jones, David Jones, Lowry Jones, Samuel Jones, William Jones, Elizabeth Roberts, John Prichard, Ann Prichards, Ann Jones, David Griffith Penycefn, John Griffith eto, Hannah Prichard, Cathrine Williams Tyddyn bach, Cathrine Owens. Cyfanrif 27. Rhestr 1828: John Evans Dolgynfydd, Evan Evans eto, Henry Owens Llety, Jane Owens eto, Robert Owens eto, Elizabeth Lloyd Prysgol, Elinor Lloyd eto, Meary Lloyd eto, Margaret Lloyd