Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto, David Jones Prysgol isa, Lowri Jones eto, Samuel Jones eto, William Jones eto, Cathrine Deavis eto, Hanna Thomas Turnpike, David Griffith Penycefn, John Griffith eto, Margaret Morgans Tyddyn wisgin, Jane Hughes eto, Margaret Hughes eto, John Jones Castellmai, Elinor Jones eto, Elizabeth Roberts Felin bach, Hannah Prichard Capel athro, Cathrine Williams Tyddyn bach, Cathrine Owens Rhyddallt, John Daniel Garth, Jane Hughes, Robert Williams Castellmai, Jane Evans, Elisabeth Hughes Tre Llanbeblig, Jane Hughes eto. Cyfanrif, 32. Nid oes llawer o fylchau yn y taliadau yn y rhestrau hyn o eiddo'r bobl mewn oed na'r plant. . Yr oedd John Williams yn bregethwr ac yn ysgolfeistr. Daeth yma o'r Fourcrosses. Cadwai'r tŷ capel yma, a bu'n cadw ysgol ddyddiol yma. Gelwir ef yn un o bregethwyr boreuol sir Gaernarvon yn y Biographical Dictionary gan Joseph Evans; ond nid oedd yn ddigon cynarol i'w alw felly. Dyna'r unig sylw arno yn y llyfr hwnnw. Aeth oddiyma i Gaernarvon i gadw'r ysgol a gedwid gan Evan Richardson, ond y rhoddwyd ei gofal heibio ganddo ar ol ei daro gan y parlys, debygir. Dilynwyd ef gan y Parch. William Lloyd, ac yntau gan John Williams. Yn ol Cathrine Jones, fe fu farw yn y dref. Gwr cwbl ddiniwed yr ymddengys ei fod, heb nemor ddisgyblaeth ganddo ar y bechgyn dan ei ofal. A dyma swm yr hyn a wyddis am dano. Ei enw ef yn ddiau yw'r John Williams a saif yn gyntaf yn rhestr yr eglwys am 1827. Os oedd yn trigiannu yn y dref yn niwedd ei oes, rhaid ei fod yn cadw ei aelodaeth yma. Paid ei gyfraniad ar ol Tachwedd. Tebygir iddo roi'r ysgol heibio beth cyn ei farw. Yr oedd Caeathro yn daith gyda Moriah yn 1838, ac yn daith gyda Bontnewydd yn 1857. Newidiwyd y cysylltiad â Moriah yn 1842 pan y sefydlwyd Engedi.

Y mae Cathrine Jones yn enwi'r rhai fu'n cadw ysgol yma heblaw John Williams, sef Evan Evans y Roe ac Evan Evans arall, John Roberts, John Wynne, Mrs. Owens o Gaernarvon a'r Parch. John Williams (Siloh). Yr oedd y rhai yma cyn dyddiau'r Bwrdd Ysgol.

Symudodd Griffith Evans i Rostryfan (Edrycher Rhostryfan), John Daniel a William Owen Hendai i'r America. Bu farw Richard Jones Prysgol isa a Richard Thomas y Tyrpeg