Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma. Dywed Cathrine Jones y bu y rhai hyn i gyd yn ffydd- lon iawn gyda'r achos.

Daeth Richard Jones, Treuan gynt, i fyw i Gastellmai o'r dref. Gwelwyd iddo fod yn ddefnyddiol gyda'r canu yn yr ysgol gyntaf yma. Bu felly wedi hynny ym Mhenrallt, Caer- narvon. Yna bu'n flaenor galluog a defnyddiol yma am faith flynyddoedd, ac yn ei hen ddyddiau fe aeth i fyw i'r dref. Dywed Mr. William Jones, y blaenor yn Nazareth, mai Richard Jones oedd y prif flaenor yma yn ei amser ef yma. Fe berthyn parchedigaeth i'w goffadwriaeth. (Edrycher Engedi).

Gwna Cathrine Jones y sylw yma ar Humphrey Llwyd: "Tua'r adeg yma [sef adeg y diwygiad] bu farw Humphrey Llwyd Prysgol, wedi bod yn ffyddlon iawn ym mhob peth yn perthyn i grefydd, yn ysgrifennydd, blaenor ac athro am flynyddoedd. Ei weddi bob amser wrth ddyfod i'r ysgol Sul fyddai ar iddo fod o les i'r plant a gogoniant i Dduw. Cafodd yr achos crefyddol yng Nghaeathro golled fawr ar ei ol. Yr oedd yn hynod am ei ffyddlondeb." Yr oedd ei gynhebrwng ar y Sulgwyn, 1859, yn ol atgof ei ŵyres, Mrs. O'Brien Owen. Nis gellid bod yn yr eglwys hon nemor, yn enwedig flynydd- oedd yn ol, heb ddeall fod Humphrey Llwyd yn ddylanwad personol neilltuol yn y lle. Heb glywed dim pendant iawn yn ei gylch, fe deimlid yn swn ei enw iddo fod yn ddylanwad pwysig iawn, a bod ei goffadwriaeth yn fendigedig. Efe oedd ysgrifennydd y Gymanfa Ysgolion gyntaf yng Nghaernarvon, sef yn 1813; a bu'n ysgrifennydd y cyfarfod ysgolion am flynyddoedd. Mae'r llyfr cyfrif a gedwid ganddo, y cyfeiriwyd ato ynglyn â hanes yr ysgol yn y Wern, mewn llawysgrifen dwt a manwl, ac y mae'r cyfrifon felly. Rhoe bopeth heibio er mwyn y capel. Rywbryd ar gefn cynhaeaf, pan oeddid yn rhoir yd i fewn, gelwid ei sylw gan William Jones y gwas, wedi hynny y blaenor yn Nazareth, fod oedfa yn y capel.. Yntau ar y funud honno yn rhoi'r gwaith heibio ac yn myned yno. Ni feddai ar ddawn gyhoeddus neilltuol. Yr oedd gan William Jones, fel hen was iddo, syniad uchel am ei gymeriad fel dyn a christion.

Dewiswyd y rhai yma yn flaenoriaid yn 1859: William Owen Prysgol, John Jones Prysgol isaf, Hugh Williams Tyddyn bach, John Roberts y Felin bach. Dywed Cathrine Jones mai 39 oedd rhif yr eglwys yr adeg honno. Ac os felly, yr ydoedd