Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dewisiad cyn y diwygiad. Tebyg, hefyd, mai ar ol marw Humphrey Llwyd.

Fe godir yr hanes am ddiwygiad 1859, fel y mae yng Nghofiant Dafydd Morgan (t. 473): "Prynhawn dydd Iau, Hydref 13, 1859, pregethodd Dafydd Morgan yng Nghaeathro. Nid oedd yr awyrgylch yn deneu iawn yno. Dywedodd wrthynt,—'Yr ydych chwi yng Nghaeathro yma heb deimlo'r diwygiad eto.' Ryw nos Sul yn fuan wedi hynny y disgynnodd y gawod, pan oedd Hugh Williams Tyddyn yn gweddio, gan ddal ar y gair hwnnw, Ac y'm cair ynddo ef. Dechreuasid y cyfarfod gan Robert Williams, yr hwn a lediodd y pennill a ganlyn gydag awdurdod a goleuni mawr,—

Awn unwaith eto i roi tro
O amgylch caerau Jericho;
Pwy wyr nad dyma'r ddedwydd awr,
Y daw rhyw ran o'r mur i lawr?

Arhosodd 14 ar ol yn y seiat y noson honno yn ol ernes yr emyn, canys yr Arglwydd a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur. Yr oedd yno wenol neu ddwy wedi ymddangos fel rhagfynegiad o'r haf ysbrydol tua mis Awst. Yr oedd un ohonynt, Mrs. Elin Williams Rhosbach, yn mynd tua Chymanfa Bangor yn niwedd Medi, pan y safodd y trên yn y twnel sydd yn ymyl y ddinas honno. Cafodd pawb eu hunain mewn tywyllwch dudew, a syrthiodd braw ar lawer, rhag ofn bod damwain wedi goddiweddyd y gerbydres; ond dechreuodd Mrs. Williams orfoleddu gan ddywedyd,— Yr wyfi mewn trên na stopith hi byth yn y tywyllwch. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.' Yr henafgwr Griffith Jones a adroddai wrthym mai dibroffes oedd ef yr adeg honno, er ei fod yn athro yn yr ysgol Sul, a hynny o flaenoriaid oedd yng Nghaeathro yn ddisgyblion iddo. Cyfodasai i ffenestr ei ystafell wely tua hanner nos ryw noson llawn lleuad, a gwelai lanc o'r enw Robert Jones, hwsmon yn y Llety, yn nesau ar ei ffordd adref o gyfarfod gweddi. Yr oedd ganddo lodrau o rib claerwyn am dano. Pan ddaeth gyferbyn a Chefnygof, cofiodd am y meistr digrefydd, a syrthiodd ar ei liniau lle'r ydoedd—mewn pwll o ddwfr y penliniodd fel y digwyddodd—ac offrymodd daer—weddi am achubiaeth gwr y tŷ. Cyffesai hwnnw [sef Griffith Jones]