wrthym nad ymwelodd cwsg â'i amrantau y noson honno. Aeth gwr a gwraig Tyddyn cae allan fel arfer o flaen y seiat un noson, ond trodd hi'n ol o gowrt y capel, syrthiodd ar ei glin— iau ar y grisiau o flaen y drws gan waeddi à llef anobaith, · Chymer yr Arglwydd mo hona i,' ddwywaith neu dair. Yr hen flaenor Humphrey Llwyd a'i cymerodd hi gerfydd ei llaw ac a'i harweiniodd i'r Tŷ. O'r tuallan y gwr a'i clywai yn llefain mewn acenion ingol. Anesmwythodd yn fawr ond ni feiddiai ddychwelyd. 'Wn i ddim be' mae nhw'n wneud iddi,' meddai, os nad ydyn nhw yn i lladd hi.' Mewn cyfarfod gweddi hwyliog, Humphrey Owen Prysgol a geryddai un hen frawd, Richard Jones y Wern, a ganai yn ddidrefn. 'Taw,' meddai, dydi'r mesur iawn ddim gen ti.' Na hidia befo'r mesur,' meddai yntau, 'nid wrth y mesur rydwi'n mynd heno ond wrth y pwysau.' Cyhuddid Hugh Williams Tyddyn bach am flynyddoedd o dorri llawr y sêt fawr yn gandryll drwy neidio mewn gorfoledd. Y dystiolaeth hon oedd wir. Teimlai John Roberts Caecrin ryw noson y dylai fugeilio nifer o fechgyn a grwydrasent i goedwig i weddio Duw. Hwythau a erfynient am ysbaid feithach dan y dail. Un ohonynt, Robert Jones Glangwna, a blediai i'r Israeliaid fod yn yr anialwch ddeugain mlynedd. Chewch chi ddim bod yma cyd a hynny,' ebe John Roberts. 'Adref a chwi.' 'Diwygiad 1859 roddodd fod i'r achos yng Nghaeathro fel y mae.'
Lle i 114 oedd yn y capel cyntaf. Gosodid lleoedd i 80 yn 1853. Cyfartaledd pris eisteddle, 7g. y 'chwarter. Swm y derbyniadau yn flynyddol am y seti, £9 6s. Rhif yr eglwys, 41. Casgl at y weinidogaeth, £7 15s. Rhoi'r y sylw" chwanegol yma ar y flwyddyn,—"Repario'r capel a'r tŷ, £3 12s. 9½c." Yn 1858 gosodid lleoedd i 100. Rhif yr eglwys, 30. Y casgl at y weinidogaeth,—"Nis gwyddom." Fe sylwir fod yr eglwys wedi disgyn yn ei rhif er 1853 o 41 i 30. Swnia hyn. ynglyn â'r Nis gwyddom yn argoelus. Yn 1860 y mae lle i 134 yn y capel. Naill ai seti wedi eu dodi i fewn neu ynte ddull newydd o gyfrif. Pa ddelw bynnag, dir eu bod yno, canys fe osodid 130 ohonynt, a thelid, yn ol 6ch. yr eisteddle y chwarter, £13 am danynt, yr hyn sy'n dâl cyflawn i'r geiniog. Ffrwyth dyladwy i'r diwygiad. Rhif yr eglwys, 80. Casgl y weinidogaeth, £21 6s. Yn 1866 yr oedd rhif yr eglwys yn 88. Casgl y weinidogaeth, £29 11S.