dderbyniodd alwad o'r Graig. Efe oedd y bugail cyntaf i'w alw i'r swydd. Llafuriodd yn enwedig gyda'r bobl ieuainc. Yn 1899 derbyniodd Mr. W. O. Jones alwad fel bugail. Daeth. yma o Beaumaris.
Yn yr ysgol yn araf y cymerwyd mewn llaw wersi paratoedig y Cyfundeb, canys awyrgylch geidwadol braidd a fu yma. Megys ag yr oedd y canu, felly y bu'r gwersi yn yr ysgol a phethau eraill, sef ar yr hen gynllun gwreiddiol da. Adroddid yn nhymor William Owen y Deg Gorchymyn gan bob dosbarth yn ei dro, canys felly yr arferid gynt. Y pryd hwnnw ni chaniateid adrodd yr un hen adnodau drosodd a throsodd. Rhaid ydoedd aros ysbaid deufis o leiaf cyn y cyfrifid adnod i neb ar ol adroddiad blaenorol; ac hyd yn oed wedi hynny fel ail-adroddiad y cyfrifid hi. Er y rhoid bri ar yr hen ni roid dim bri ar lwydni. Fe berthynai i'r ysgol hon hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf, os nad o hyd, ddeuddeg o reolau sefydlog. Un ydoedd y rhaid dod i'r ysgol yn lanwaith ac at yr adeg briodol; ac un arall, na chaniateid yn ddigerydd rhyw uchel-chwerthin ar y ffordd allan. Os clywid am drosedd o unrhyw reol, fe roid sylw arbennig i'r rheol honno ar ben mis.
Dyma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Y mae yma rai dosbarthiadau rhagorol; ond byddai'n ddymunol talu mwy o sylw i'r gyfundrefn o raddoli. Gwnelai les mawr yma pe sefydlid cyfarfod darllen yn ystod yr wythnos i'r athrawon. Anogem i fwy o ffyddlondeb gyda golwg ar gael y gynulleidfa a'r eglwys yn fwy cyffredinol i'r ysgol, a thynnu allan gyn- lluniau o duedd i lesoli'r sefydliad. John Davies, Thomas Jones."
Arweinwyr y gân yn ddilynol i William Owen ydoedd. Robert Lloyd Owen a Hugh William Morris.
Y mae hanes gwasanaeth William Owen gyda chanu'r cysegr a dylanwad ei donau yn rhan o hanes Methodistiaeth Arfon, a gellir cyfleu rhywbeth am danynt yma cystal ag yn unlle. Yn ddyn ieuanc gartref yn Cilmelyn ym mhlwyf Bangor y dechreuodd gyfansoddi tonau. Wrth ddychwelyd oddiwrth ei orchwyl yn y chwarel yn y prynhawn, ymhen rhyw encyd o amser ar ol gwaeledd, ac yn flinedig o gorff, y cyfansoddodd y dôn Deemster ar y geiriau, "Mi nesaf atat eto'n nes." Yn ei lety yn Glanygors, yn nes i'r chwarel na'i gartref, y canwyd Deemster ganddo ef a'i gyd-letywr. Erys y dôn yn ei blas a